Ken Skates: Trenau Arriva Cymru 'yn gwneud gormod o elw'

Disgrifiad o'r llun, Mae nifer y teithwyr wedi codi o 18m y flwyddyn yn 2003 i 30m erbyn hyn

Mae cwmni Trenau Arriva Cymru yn gwneud gormod o elw, yn 么l ysgrifennydd economi Cymru.

Dywedodd Ken Stakes ei bod hi hefyd yn boenus i feddwl bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwario miliynau o bunnoedd ar ben y cymhorthdal sy'n cael ei gynnig, er mwyn darparu gwasanaethau ychwanegol.

Daw ei sylwadau ar raglen Week In Week Out 麻豆官网首页入口 Cymru, sy'n datgelu fod gorlenwi ar y trenau yn y boreau yng ngorsafoedd Caerdydd yn cynyddu ar raddfa uwch nag unrhyw le arall y tu allan i Lundain, yn 么l ffigyrau'r Adran Drafnidiaeth.

Y llynedd fe wnaeth Trenau Arriva Cymru elw o 6.9%, tua dwbl yr elw sy'n cael ei wneud gan gwmn茂au trenau eraill o'r un maint yn y DU.

Fe ddywedodd y cwmni eu bod wedi buddsoddi mwy o arian yn 么l i'r rhwydwaith yng Nghymru na'r cyfanswm oedd yn ofynnol o dan dermau'r cytundeb.

'Dangos ymroddiad'

Trenau Arriva Cymru enillodd yr hawl i fod yn gyfrifol am y rhan fwyaf o wasanaethau tr锚n yng Nghymru a'r Gororau wrth sicrhau'r fasnachfraint yn 2003.

Mae'r cwmni yn derbyn cymhorthdal o rhwng 拢110m a 拢160m y flwyddyn.

Doedd y cytundeb, pan gafodd ei lunio yn 2003, ddim wedi ystyried effaith twf yn niferoedd y teithwyr, ac mae nifer y siwrneiau gan deithwyr yng Nghymru wedi codi o 18m y flwyddyn yn 2003 i 30m erbyn hyn.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Bydd pedwar cwmni yn ceisio am yr hawl i fod yn gyfrifol am rwydwaith trenau Cymru a'r Gororau o 2018

Dywedodd Lynne Milligan, cyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid gyda Trenau Arriva Cymru: "Rydym yn cynnal 20% yn fwy o wasanaethau nac oedd yn ofynnol o dan y cytundeb, felly rydym eisoes wedi dangos ymroddiad i'r busnes.

"Rydym wedi buddsoddi ymhell dros 拢30m mewn nifer o welliannau i deithwyr, ac eleni byddwn yn buddsoddi 拢2.5m er gwaetha'r ffaith y gallwn golli'r cytundeb ymhen 18 mis."

Mae'r fasnachfraint bresennol yn dod i ben yn Hydref 2018, gyda Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am benderfynu pa gwmni fydd yn gyfrifol am y fasnachfraint newydd.

Mae pedwar cwmni yn ceisio am y cytundeb, fydd 芒 therfyn ar y canran o elw y gallai'r cwmni buddugol ei ennill.

Disgrifiad o'r llun, Mae Ken Skates yn galw am fuddsoddi pellach yn y gwasanaeth gan y cwmni

Mae Mr Skates yn credu fod yr elw presennol yn ormod, ac mae'n feirniadol o'r ffaith nad oedd y cytundeb gwreiddiol yn gofyn i'r cwmni ymateb i'r cynnydd yn nifer y teithwyr.

"Mae'n boenus ein bod yn gwario 拢25m ar wasanaethau ychwanegol y tu allan i'r cytundeb," meddai.

"Mae'n rhesymol y dylen nhw fod yn buddsoddi mwy yn y gwasanaeth, a dwi'n trafod yr angen i wella gwasanaethau yn aml gyda Threnau Arriva Cymru".

Problemau llogi trenau

Dywedodd Trenau Arriva Cymru hefyd y bu problemau wrth geisio llogi mwy o drenau oddi wrth gwmn茂au eraill.

Yn 么l llefarydd, oherwydd bod y rhaglen o drydaneiddio nifer o reilffyrdd ym Mhrydain yn arafach na'r disgwyl, mae cwmn茂au wedi bod yn cadw eu gafael ar yr hen gerbydau.

Fe ychwanegodd Ms Milligan: "Byddwn wrth fy modd yn gallu dweud bod yna fwy o drenau, er mwyn rhoi sedd i bawb ar bob gwasanaeth, ond dyw hynny ddim ar gael.

"Yr her i ni nawr yw cynnal y gwasanaeth gorau posib gyda'r trenau sydd ar gael."

Disgrifiad o'r llun, Mae gorlenwi yng ngorsafoedd Caerdydd yn broblem gynyddol yn 么l ffigyrau newydd

Dywedodd Rhiannon McElhenny o Don Pentre mai ei phryder hi fel teithiwr cyson yw cyrraedd yn hwyr i'r gwaith.

"Mae'n achosi pryder oherwydd yn syth bin rydych yn poeni am egluro pam eich bod yn hwyr eto, ac nid ddim just munud neu ddau, fe allai fod hyd at 30 neu 40 munud," meddai.

"Does dim allwn ni wneud, mae'r cyfan yn nwylo'r cwmni tr锚n."

System signalau

Mae mwy na hanner yr oedi sy'n digwydd oherwydd problemau gyda'r trac, sy'n rhan o gyfrifoldeb Network Rail.

Dywedodd Mr Stakes y dylai Llywodraeth y DU fuddsoddi mwy yn isadeiledd y rheilffyrdd yng Nghymru.

Yn 么l Mr Stakes mae Network Rail yn buddsoddi 1% o'i gyllideb yng Nghymru, er bod 6% o'r rhwydwaith yng Nghymru.

Dywedodd Network Rail y bydd system signalau newydd gwerth 拢300m sy'n cael ei osod yng Nghaerdydd yn gwella amseroedd teithio.

Fe ddywedodd Llywodraeth y DU fod darparu a chyllido masnachfraint y cwmn茂au tr锚n yng Nghymru yn rhan o gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

Bydd rhaglen Week In Week Out ar 麻豆官网首页入口 1 Wales am 22:40 ddydd Mawrth.