Ateb y Galw: Dilwyn Morgan

Dilwyn Morgan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Tara Bethan yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Hafau plentyndod ym Mhen Ll欧n. Roedd hi'n dywydd mynd i lan y m么r bron bob dydd a chael brechdanau tomatos o'r t欧 gwydr polythene a llosgi yn yr haul a Mam yn fy mhlastro efo calamine lotion. Dwi ddim yn cofio erioed methu mynd i lan y m么r oherwydd glaw!!!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Miss Roberts oedd yn dysgu plant bach yn ysgol Llaniestyn. Mi syrthiais dros fy mhen a fy 'nghlustiau mewn cariad efo hi pan o'n i yn bedair oed. Pan nes i ddeall nad oedd gobaith i'r berthynas mi fu bron i mi fod yr ieuengaf erioed i ymuno 芒'r French Foreign Legion!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae si诺r fod trio boddi fy chwaer yn lan m么r Abersoch yn uchel ar y rhestr neu falle cael fy nal yn gwisgo sgert hoci Lorraine Haig pan yn y chweched yn Ysgol Botwnnog. Doedd Lorraine ddim ynddi ar y pryd diolch i'r drefn!!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Tro cynta' dwi'n cofio crio oedd yn gwylio ffilm Dr Doolittle yn y pictiwrs yn Rhyl 'fo Anti Marian. Rwan dwi'n crio pan dwi'n gwylio Britain's Got Talent neu Lassie Come Home.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Fy niet. Pethau anghywir amser anghywir ac anghyson. Dwi'n b'yta gormod o fwyd sbwriel.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Does ond un ateb bosib yma sef T欧'n Pwll, y tyddyn lle gefais fy magu yng Ngarnfadryn draw yn Ll欧n. Tydi'r lle 'di newid dim i mi ac mae 'na atgofion ymhob twll a chornel yno. Paradwys.

Ffynhonnell y llun, Gwenan Roberts/麻豆官网首页入口

Disgrifiad o'r llun, Ardal Garnfadryn: Paradwys i Dilwyn

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ym wel rhaid ateb yn ofalus!! Wedi cael ambell noson berffaith ar gwch a noson serog braf a'r m么r yn dawel a dim ond s诺n y gwynt a mwg o banad o de a brechdan corned beef a mwstard.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Swil, pengaled ac annwyl (yn 么l Mam).

Beth yw dy hoff lyfr?

Lord of the Rings. Unrhyw lyfr am deithio ac antur.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Victore Borge - un or comed茂wyr gora' fu. Fel arall o amgylch y t芒n efo ffrindiau yn yfed cwrw go iawn ac adrodd yr un straeon a wnaethon ni tro blaen.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

The Bicycle Thief. Ffilm ddu a gwyn o'r Eidal gydag is-deitlau Saesneg wedi ei chyfarwyddo gan Vittorio De Sica. Dwy awr o ffilm am ddyn yn chwilio am ei feic oedd wedi ddwyn.

Dwi'n meddwl mod i angen mynd allan yn amlach!!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Adra ar y tyddyn ym Mhen Ll欧n yn mynd rownd ar y Ffyrgi bach neu mynd 芒 Miss Roberts i'r pictiwrs i weld Dr Doolittle.

Disgrifiad o'r llun, Dilwyn wrth y llyw a John yn breuddwydio am y frechdan 'corned beef 'a mwstard nesa'

Dy hoff albwm?

Unrhyw un o albyms Rick Wakeman, er ar hyn o bryd, deuawdau Rhys Meirion sy'n chwarae yn ddi-stop yn y car.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cynta' a hwnnw fyddai cyri cyw i芒r on-the-bone Mici Plwm efo'r trimmings i gyd yn enwedig Bombay Duck.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Mi faswn i wrth fy modd yn bod yn Owen Morgan Griffith Huws fy 诺yr 5 oed er mwyn i mi gael gweld sut un ydw i go iawn trwy ei lygaid o. Fel arall bod yn unrhyw un sydd yn filiwnydd er mwyn trio gwario'r cwbwl mewn diwrnod.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Mici Plwm