麻豆官网首页入口

Cylchffordd Cymru: Llywodraeth i ystyried cynllun newydd

  • Cyhoeddwyd
Cylchffordd Cymru

Mae datblygwyr trac rasio ym Mlaenau Gwent wedi rhoi cynnig newydd gerbron Llywodraeth Cymru, wedi i Ysgrifennydd yr Economi alw am fwy o fanylion.

Pythefnos yn 么l dywedodd Ken Skates y byddai'n rhaid i'r cwmni sy'n ceisio cael cefnogaeth ar gyfer Cylchffordd Cymru roi mwy o fanylion am fuddsoddwyr.

Dywedodd Mr Skates y byddai'r llywodraeth nawr yn "ystyried y cynnig yn ofalus" cyn i'r cabinet wneud penderfyniad terfynol.

Mae'r datblygwyr yn dweud y byddai'r cynllun yn costio 拢425m, ac yn creu 6,000 o swyddi.

Meini prawf

Yn 么l y datblygwyr, Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, bydd y gwaith adeiladu'n dechrau yn y gwanwyn os yw'r prosiect yn cael ei gymeradwyo.

Mae disgwyl i'r cynllun i adeiladu trac rasio ger Glyn Ebwy gostio 拢425m ond mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu na fyddan nhw'n gwarantu mwy na hanner y gost.

Yn 么l cwmni Cylchffordd Cymru mae'r cynnig diweddara' yn dangos bod ganddyn nhw gefnogaeth preifat i dalu am y cynllun, a mae'n gofyn i drethdalwyr warantu llai na 50%.

Yn siarad yn siambr y Cynulliad dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates ei fod yn "ymddangos" fel pe bai'r datblygwyr wedi cyrraedd meini prawf y llywodraeth.

Dywedodd y byddai'r broses ffurfiol o "ddiwydrwydd dyladwy" - sef edrych yn fanwl ar y ffigyrau, y datblygwyr a chynaliadwyedd y cynllun - yn gallu bwrw mlaen.

Yn 么l Mr Skates fe fydd y broses yna'n cymryd hyd at chwech wythnos cyn i'r cabinet benderfynu os yw'r llywodraeth am gefnogi'r cynllun.

Yn ymateb i ddatganiad Ysgrifennydd yr Economi, fe ddywedodd Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd ei fod yn "edrych ymlaen at ddechrau'r gwaith adeiladu erbyn y gwanwyn eleni".

Dywedodd y cwmni y byddai'n gwireddu "gweledigaeth ar gyfer canolfan o safon rhyngwladol ar gyfer moduro, hamdden, twristiaeth ac arloesi, fydd yn trawsnewid y gymuned leol, yn creu cyfleoedd cyflogaeth, a helpu i ddatblygu'r economi Gymreig".