麻豆官网首页入口

Newid hyfforddiant athrawon i 'ddenu'r gorau i Gymru'

  • Cyhoeddwyd
athrawesFfynhonnell y llun, Thinkstock

Bydd newidiadau i hyfforddiant athrawon yng Nghymru yn helpu i ddenu'r dalent "gorau oll" i'r dosbarth, yn 么l yr Ysgrifennydd Addysg.

Dywedodd Kirsty Williams y byddai'r rheolau newydd yn cryfhau cysylltiadau rhwng prifysgolion ac ysgolion er mwyn ceisio codi safonau.

Yn ddiweddar mae corff arolygu Estyn wedi dweud bod safonau dysgu yng Nghymru yn wan.

Mynnodd Ms Williams y byddai'r newid yn gwneud dysgu yn "broffesiwn dewis cyntaf".

'Cam radical'

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r newidiadau i hyfforddiant athrawon yn rhoi mwy o bwyslais ar ymchwil.

Y bwriad yw bod y newidiadau yn paratoi darpar-athrawon ar gyfer y cwricwlwm newydd fydd yn cael ei gyflwyno erbyn 2021.

"Rydyn ni eisiau i ysgolion a phrifysgolion weithio gyda'i gilydd, gan ddefnyddio'r ymchwil orau posib, fel bod gan ein hathrawon y sgiliau cywir i allu cyflwyno'r cwricwlwm newydd er budd ein holl ddisgyblion," meddai Ms Williams.

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan Gareth Evans, cyfarwyddwr addysg ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant, a ddywedodd ei fod yn "gam radical, ond un fydd am y gorau".

Dywedodd undeb athrawon yr NUT y byddai angen sicrhau bod y newid "arloesol" yn sicrhau bod y "rheiny sydd yn dechrau yn y proffesiwn, a'r rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y sector, yn cael yr hyfforddiant cywir, t芒l ac amodau da a'r lefel digonol o gefnogaeth".