Y mwg drwg

Yn 2005 fe heidiodd bron i 100 o bobl i'r Senedd ym Mae Caerdydd i brotestio yn erbyn bwriad Llywodraeth Cymru i wahardd ysmygu mewn manau cyhoeddus. Degawd ers i'r ddeddf ddod i rym ar 2 Ebrill 2007, ydy'r newid wedi bod er gwell neu er gwaeth?

Yn 么l gr诺p ysmygwyr Forest, mae p么l piniwn sydd wedi'i gomisiynu gan Populus yn dangos fod 58% o boblogaeth Cymru yn meddwl y dylai tafarndai a chlybiau preifat gael yr hawl i osod ystafelloedd i ysmygwyr.

Dywedodd Simon Clark, cyfarwyddwr Forest: "Mae'r awgrym fod y gwaharddiad ar ysmygu yn hynod boblogaidd wedi'i ddatguddio fel myth."

Y rheswm dros lefelau uchel o ufuddhau ydy am fod cosbau mor llym a bod pobl ofn torri'r gyfraith, meddai.

Ond ers 2 Ebrill 2007, mae'r elusen ASH Wales yn nodi fod canran yr ysmygwyr yng Nghymru wedi gostwng o 24% i 19% yn 2017.

Dywedodd prif weithredwr yr elusen, Suzanne Cass, fod y gwaharddiad wedi bod y newid mwyaf allweddol i iechyd y wlad ers degawdau.

Meddai fod cefnogaeth cryf yn parhau i'r gwaharddiad, gyda 81% o blaid gan gynnwys tri chwarter o holl ysmygwyr y wlad.

Ond beth am y brotest yn 2005 ac ymgyrch 'Butt Out!' tafarnwyr i geisio atal y ddeddf? Beth ydy'r teimladau bellach?

Trefnwyr y brotest honno oedd papur newydd y diwydiant bragu, The Publican - neu The Morning Advertiser fel mae'n cael ei adnabod bellach.

"Bydden ni fwy na thebyg ddim yn cefnogi ymgyrch debyg heddiw," meddai golygydd y papur, Ed Bedington.

"Mae'r gwaharddiad wedi gwneud lot o dda i'r diwydiant cwrw ac mae tafarndai yn lefydd lle all teuluoedd fynd erbyn hyn i fwynhau bwyd a diod o safon.

"Dwi ddim yn meddwl bod galw i ddiddymu'r ddeddf erbyn hyn ond dydi hynny ddim i ddweud nad oes rhai tafarndai wedi dioddef, ac yn dal i ddioddef."

Ond beth am y deddfau eraill?

Presgripsiwn

Mae meddyginiaeth drwy bresgripsiwn wedi bod am ddim yng Nghymru ers 1 Ebrill 2007. Yn y degawd ers hynny, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi dilyn.

Mae'r gweithwyr iechyd sy'n gallu eu rhoi yn cynnwys fferyllwyr a nyrsys, ac mae'r presgripsiynau hynny am ddim hefyd.

Yn 么l y llywodraeth, dyma benderfynu cael gwared 芒 th芒l am bresgripsiynau am fod tystiolaeth yn dangos bod rhai unigolion oedd yn dioddef o gyflyrau cronig difrifol fel pwysau gwaed uchel neu glefyd y galon yn methu 芒 fforddio'r presgripsiynau ac yn dewis gwrthod rhannau o'r presgripsiwn er mwyn lleihau'r gost.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething bod "rhoi presgripsiynau am ddim yn flaengar ac yn rhan annatod o'n gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru".

Ond yn 么l llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd yng Nghymru, Angela Burns, mae'r ddeddf yn rhoi gormod o bwysau ariannol ar y Gwasanaeth Iechyd, ac yn cymryd arian all gael ei ddefnyddio i ariannu triniaethau am afiechydon mwy difrifol.

Rhoi organau

Disgrifiad o'r fideo, Mae Catrin Williams-Jones wedi cael dau drawsblaniad, ac mae'n dweud bod newid rheolau rhoi organau yn 'ffantastig'

Cymru yw'r wlad gyntaf ym Mhrydain i fabwysiadu trefn o'r fath, a'r bwriad oedd y byddai'r newid yn cynyddu nifer yr organau all gael eu defnyddio i drawsnewid bywydau cleifion sy'n ddifrifol wael.

Yr amcangyfrif oedd y gallai'r newid olygu cynnydd o tua 25% yn y nifer sydd yn rhoi organau ar 么l marw.

Ym mis Medi y llynedd, dywedodd Prif Feddyg Llywodraeth Cymru, Dr Frank Atherton, fod Cymru "yn arwain" yn yr ymdrechion i gynyddu nifer y bywydau sy'n cael eu hachub drwy drawsblannu organau.

Yn 么l yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething, roedd ystadegau y 12 mis cyntaf yn galonogol ac mae'r newid yn y gyfraith wedi bod yn bositif.

Ers 1 Rhagfyr 2015, mae 160 o organau wedi cael eu trawsblannu, gyda 39 o rheiny drwy ganiat芒d tybiedig. Mae ffigyrau yn dangos bod 6% o bobl sy'n gymwys yng Nghymru wedi penderfynu tynnu'n 么l o'r cynllun.

Bagiau plastig

Cymru oedd yn arwain y ffordd pan ddaeth hi i gyflwyno t芒l o 5c ar y defnydd o fagiau plastig hefyd.

Ond yn 2011 roedd llawer yn poeni am y "dryswch" fyddai'r ddeddf yn ei achosi i siopau a busnesau bach gan nad oedd y rheolau yn ddigon clir.

Er gwaethaf y pryderon, mae'r ddeddf yn cael ei gweld fel un sydd wedi bod yn llwyddiannus ac yn effeithiol, gyda'r defnydd o fagiau plastig yng Nghymru wedi gostwng tua 76% ers i'r ddeddf ddod i rym.

Yn y cyfamser mae'r Alban, Gogledd Iwerddon, ac yn fwy diweddar Lloegr, wedi dilyn esiampl Cymru.

Ysmygu yn y car

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

O fewn 12 mis cyntaf deddf oedd yn gwneud hi'n anghyfreithlon i ysmygu mewn cerbyd sy'n cludo rhywun o dan 18 oed, cafodd neb eu dirwyo.

Ddeuddeg mis ers dod i rym yn Hydref 2015, doedd yr un o gynghorau Cymru wedi rhoi dirwy - werth 拢50 - er bod rhai heddluoedd a chynghorau wedi rhoi rhybudd llafar.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gyfraith yn anfon "neges gref" i ysmygwyr. Ond yn 么l Ffederasiwn yr Heddlu, mae'r gwaharddiad yn "anodd" i'w weithredu, gyda'r heddlu yn gorfod cyfeirio troseddwyr at y cynghorau.

Taro plant

Roedd Julie Morgan AC wedi cynnig newid i'r mesur Trais yn Erbyn Merched er mwyn dod 芒 diwedd i'r defnydd o "roi cerydd" fel amddiffyniad cyfreithiol am daro plant. Fe bleidleisiodd 36 yn erbyn y cynnig ac 16 o blaid.

Mae cyn Archesgob Cymru Dr Barry Morgan ymysg y rhai sydd wedi galw am ail-ystyried y penderfyniad, gan ddadlau fod "gennym ni i gyd gyfrifoldeb i roi diwedd ar sefyllfa ble mae'r math cyffredin hwn o drais yn dderbyniol yn ddiwylliannol a'n gyfreithiol".