麻豆官网首页入口

CBI Cymru'n galw i ddiddymu tollau Pont Hafren

  • Cyhoeddwyd
HafrenFfynhonnell y llun, Thinkstock

Dylai'r tollau i groesi Pont Hafren gael eu diddymu "er mwyn rhoi hwb i'r economi ar unwaith", medd CBI Cymru.

Mae'r corff yn cynrychioli rhai o gyflogwyr mwya'r wlad.

O dan y cynlluniau presennol fe fydd ceir, faniau a bysiau bach yn talu 拢3 o doll pan fydd y pontydd yn dod o dan berchnogaeth gyhoeddus yn 2018.

Bydd lor茂au a bysus mwy yn talu 拢10, yn lle'r 拢20 ar hyn o bryd.

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi ymgyrchu dros ddiddymu'r tollai ers blynyddoedd.

'Mae'r byd yn gwylio'

Dywedodd Cyfarwyddwr CBI Cymru, Ian Price: "Mae'r DU wedi brwydro am ei henw da fel economi disgwyliadwy sydd o blaid mentergarwch, ac mae'n rhaid gwarchod hynny - mae'r byd yn gwylio.

"Byddai diddymu'r tollau dros yr Hafren yn arwydd cynnar a chlir bod llywodraeth nesa'r DU wedi ymrwymo i dyfu economi Cymru.

"Mae cost i ddiddymu'r tollau ond fe allai roi hwb ar unwaith i'r economi, ac yn gweu cymunedau de Cymru a de orllewin Lloegr yn agosach at ei gilydd, gan gynorthwyo i rannu cyfoeth a gwella cystadleuaeth."