Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Perygl i hen Ysbyty Gogledd Cymru ddymchwel wedi t芒n mawr
Mae'n debyg y bydd rhan o hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych yn gorfod cael ei ddymchwel yn dilyn t芒n mawr ar y safle yn gynnar fore Gwener.
Fe wnaeth Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru yrru 40 o ddiffoddwyr i'r digwyddiad.
Y gred yw bod y to'r adeilad rhestredig Gradd II eisoes wedi dymchwel yn yr hen ysbyty meddwl. Cafodd y gwasanaethau t芒n eu galw toc wedi 03:00 fore Gwener.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Ddinbych fod y t芒n wedi ei gyfyngu i un adain o'r prif adeilad. Roedd y rhan yma o'r ysbyty wedi ei glustnodi ar gyfer cael ei ail-ddatblygu, ond mae'r cyngor yn dweud fod y difrod mor ddrwg na fydd modd ei adfer bellach.
Y llynedd cafodd cais ei lunio i godi tai ar y safle ond hefyd yn gwarchod rhan helaeth o'r adeilad.
Dywedodd llefarydd fod y cyngor wedi dychryn o achos gweithred unigolion "sydd wedi creu cymaint o ddifrod i safle yr oedd y cyngor wedi bod yn ceisio ei amddiffyn ers blynyddoedd maith, gan ddilyn pob llwybr cyfreithiol i ddarganfod ateb cynaliadwy i'r safle."
Ychwanegodd fod y math yma o ymddygiad yn peryglu bywydau ac mae'r awdurdod yn galw ar bobl i gadw draw o'r safle.
"Mae'n dal yn fwriad gan y cyngor i gwblhau gorchymyn prynu gorfodol ar y safle ac yna'i drosglwyddo i Ymddiriedolaeth Adfer Adeiladau Gogledd Cymru sydd ar hyn o bryd yn cwblhau eu cynllun busnes cyn i'r safle gael ei drosglwyddo."
Er bod y t芒n wedi ei ddiffodd erbyn hyn, bydd y gwasanaethau brys yn aros ar y safle am weddill y dydd. Dywedodd llefarydd ar gyfer Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos y t芒n.
Fe wnaeth yr ysbyty gau yn 1996 ac er bod galwadau wedi bod i'w adfer dyw hynny ddim wedi digwydd.
Dros y blynyddoedd mae tanau eraill wedi bod yno, yr un diweddaraf ym mis Chwefror.