麻豆官网首页入口

Atgofion Ysbyty Meddwl Dinbych

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty DinbychFfynhonnell y llun, Cymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yr ysbyty yn rhan bwysig o dref Dinbych pan oedd hi ar agor rhwng 1848 ac 1995

Mae perygl y bydd rhan o hen ysbyty meddwl yn Ninbych yn dymchwel yn dilyn t芒n mawr ar y safle.

Fe gaeodd yr ysbyty yn 1996 ac er bod galwadau wedi bod i'w adfer dyw hynny heb ddigwydd. Dros y blynyddoedd mae tanau eraill wedi bod yno, yr un diweddaraf ym mis Chwefror.

Mae hen Ysbyty Gogledd Cymru wedi bod yn rhan bwysig o hanes tref Dinbych ers ei agor yn 1848.

Aeth Cymru Fyw i holi rhai o drigolion y dref am eu hatgofion nhw o'r ysbyty:

'Y dref yn dawelach wedi i'r ysbyty gau'

"Roedd fy ngwraig, brawd yng nghyfraith a'm brawd i gyd yn gweithio yno," meddai'r hanesydd o Ddinbych, Bobi Owen. "Atgofion eithaf melys sydd gen i am y lle.

"Roedd hi'n f么r o garedigrwydd yno er bod y cleifion yn dioddef salwch meddyliol. Roedd y staff yn annwyl iawn efo nhw o ystyried bod chi'n mynd 'n么l tipyn o amser.

"Fel hogyn ifanc un o'r pethe mawr oedd dawns y seilam - y seilam roedden ni'n galw'r lle. Roedd cystadleuaeth frwd am docynnau. Doedd y cleifion ddim yn cael mynychu.

"Dyma ddigwyddiad cymdeithasol y flwyddyn ac roedd y staff yn treulio wythnosau yn addurno'r neuadd. O'n i'n mynd yn rheolaidd.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal yn y neuadd adeg y Nadolig er enghraifft

"Roedd cannoedd a channoedd o bobl yn gweithio yno a phobl o siroedd dros ogledd Cymru wedi symud i fyw i Ddinbych er mwyn gweithio yno. Roedd yn dod 芒 llawer o bobl i Ddinbych gan gynnwys ymwelwyr.

"Roedd yn dod ag arian i'r dref ac roedd yr ysbyty'n prynu lot o bethau yn y dref.

"Roedd Dinbych yn dawelach o lawer wedi i'r ysbyty gau. Roedd t卯m p锚l-droed a chriced y staff yn amlwg iawn yng ngogledd Cymru. Roedd yr ysbyty fel tref ynddi ei hun. Roedd bron yn hunangynhaliol, roedd staff ar gyfer popeth.

"Gan fod yr ysbyty ar gyrion y dref faswn i wedi hoffi gweld swyddfeydd y sir yn mynd yno. Mae'n ddelfrydol ar gyfer rhywbeth felly.

"Faswn i ddim yn hoffi gweld diwydiant yn mynd yno a dwi ddim eisiau gweld yr ysbyty'n cael ei ddymchwel a thai yn cael eu hadeiladu yno. Yn ddelfrydol hoffwn weld amgueddfa a chanolfan gymunedol yno."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Bobi Owen bod y staff yn gwario wythnosau yn addurno'r neuadd ar gyfer y digwyddiadau

Bu Dafydd Jones yn gweithio fel nyrs yn yr ysbyty rhwng 1966-1995 ac mae bellach yn rhan o Gymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru.

"Bron iawn bod aelod o bob teulu hefo rhyw berthynas yn gweithio yna, ac roedd 'na gymuned glos yna, a lot o adloniant yn mynd ymlaen," meddai.

"Roedd rhan fwyaf o bobl yna am dymor hir, felly roedd ochr yr adloniant yn gry' iawn, yn enwedig yn y 40au, 50au a'r 60au.

"Ar 么l hynny wnaeth pethe newid, roedd agweddau at driniaeth iechyd meddwl yn newid a'r ffocws yn newid i'r gymuned.

"Dim ond adeilad ydy o '诺an, ac mae 'na olwg ddifrifol ar y lle erbyn r诺an, dwi 'di dychryn efo'i gyflwr.

"Rydyn ni'n gobeithio agor amgueddfa yn yr hen gwrt yn Ninbych, a gobeithio bydd yr holl gelfi sy'n cael eu cadw yn Archifdy Rhuthun yn dod yma i agor amgueddfa.

"Mae'r ysbyty 'di bod yn rhan bwysig iawn o'r dre, a dwi'n meddwl ei fod yn beth doeth i gadw'r pethe' yma i'r cenedlaethau i ddod."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Adran argraffu, lle roedd cleifion yn cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd (llun tua 1965)

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o staff nyrsio yr ysbyty yn 1938

'Adeilad mor hardd'

Meddai Stan Lyle, sy'n byw yn Ninbych: "Collodd y cyngor sir gyfle flynyddoedd yn 么l.

"Mae'r safle wedi dirywio r诺an. Mae o'n adfail erbyn hyn, byddai angen gwariant aruthrol i'w adfer.

"Mae'n adeilad mor hardd, dwi ddim yn gwybod beth allai ddigwydd nawr, mae hi mor hwyr yn y dydd.

"Beth am goleg Cymraeg? Neu goleg chweched dosbarth Cymraeg i ysgolion y fro neu sefydliadau addysg debyg?

"Y broblem yw ei fod o'n anferth o le - byddai isio mwy nag un sefydliad yno. Roedd s么n am garchar neu bencadlys y sir ond mi gollwyd y cyfle. Mae'r dirywiad yn y lle yn amlwg i bawb, mae'n cael ei fandaleiddio erbyn hyn.

"Mi oedd 'na gaeau chwaraeon da - y cyfan wedi mynd yn wastraff. Roedd s么n am amgueddfa feddygol ond mae'n rhy fawr i hynny.

"Dwi'n teimlo fod pobl wedi colli diddordeb erbyn hyn. Mae'n anodd dychmygu beth fydd yn digwydd i'r safle."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y t芒n fore Gwener oedd y diweddaraf mewn cyfres o achosion

Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi'n wreiddiol ar Cymru Fyw yn 2014.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol