麻豆官网首页入口

Prosiect yn hel atgofion o hen ysbytai hirdymor Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Dinbych
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar chwe ysbyty gan gynnwys Ysbyty Dinbych

Mae Mencap Cymru yn lansio prosiect fydd yn cofnodi ac yn arddangos atgofion byw cyn gleifion a gweithiwyr o chwe ysbyty hirdymor Cymru.

Bydd y prosiect tair blynedd, o'r enw Clywed y Cyn-Cuddiedig, yn canolbwyntio ar chwe ysbyty yng Nghymru.

Y bwriad yw casglu hanes llafar gan gyn gleifion a gweithwyr yn yr ysbytai a hefyd eitemau o'r ysbytai er mwyn creu arddangosfeydd.

Dywedodd Si芒n Davies, Pennaeth Effaith Gymunedol Mencap Cymru: "Un o'n blaenoriaethau ni fel Mencap Cymru yw newid agweddau tuag at bobl ag anableddau dysgu.

"Rydyn ni am bwysleisio bod eu hanes nhw'r un mor bwysig 芒 phrofiad pobl eraill.

'Hanes cudd'

"Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn gwybod am yr hanes yma gan ei bod wedi bod yn hanes cudd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r prosiect am hel atgofion cyn cleifion a gweithwyr chwe ysbyty hirdymor dros Gymru

"Doedd pobl ag anableddau dysgu ddim yn cael eu trin fel unigolion, roeddent yn cael eu rhoi mewn ysbytai hirdymor heb unrhyw sgwrs na thrafodaeth.

"Doedd dim disgwyliadau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu."

Dywedodd Ms Davies bod llawer o'r cyn gleifion yn heneiddio felly roedd yn bwysig bod y prosiect yma'n digwydd nawr.

Yn ogystal 芒 chreu arddangosfeydd mae'r prosiect yn bwriadu gweithio gydag ysgolion i greu pecyn er mwyn i blant cael dysgu mwy am hanes y cyn gleifion.

"Rydyn ni'n gobeithio dysgu bod pobl ag anableddau dysgu yn bobl yn bennaf ac yn haeddu cael eu trin fel pobl," meddai Ms Davies.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar Ysbyty Hensol ym Mro Morgannwg, Ysbyty Llanfrechfa yn Nhorfaen, Bryn y Neuadd yng Nghonwy, Ysbyty Trelai yng Nghaerdydd, Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerfyrddin ac Ysbyty Dinbych yn Sir Ddinbych.

Mae Mencap wedi derbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn ariannu'r prosiect.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol