麻豆官网首页入口

Ailgychwyn ymgyrch etholiad wedi ymosodiadau Llundain

  • Cyhoeddwyd
DynesFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae blodau wedi eu gosod ger lleoliadau'r ymosodiad

Mae'r ymgyrch etholiadol wedi ail gychwyn ddydd Llun yn dilyn yr ymosodiadau yn Llundain nos Sadwrn, pan gafodd saith o bobl eu lladd.

Roedd y pleidiau gwleidyddol, heblaw am UKIP, wedi atal ymgyrchu wedi'r digwyddiad.

Fe ddywedodd UKIP nad oedden nhw'n atal eu hymgyrch oherwydd bod hynny'n tarfu ar ddemocratiaeth, ac mai dyna fyddai dymuniad yr eithafwyr.

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn ymgyrchu yn y gogledd.

Bydd Mr Jones yn dechrau'r diwrnod yn ymgyrchu ar Ynys M么n lle mae ei blaid yn wynebu her gref gan Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr, gan symud i Wrecsam yn ddiweddarach.

Fe fydd Ms Wood hefyd yn ymgyrchu ym M么n.

Ar ran y Ceidwadwyr, fe fydd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ac arweinydd y blaid yng Nghymru, Andrew RT Davies yn ymgyrchu yn y de.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymchwiliad yr heddlu i'r ymosodiad yn Llundian yn parahu

Bu oedi yn yr ymgyrchu yn dilyn yr ymosodiadau yn Llundain nos Sadwrn.

Cafodd tri sy'n cael eu hamau o fod yn gyfrifol eu saethu'n farw gan yr heddlu.

Mae nifer o bobl wedi eu hanafu, rhai yn ddifrifol, gan gynnwys swyddogion heddlu.

Dywedodd y Prif Weinidog Theresa May bod angen i'r wlad ddod ynghyd i wynebu bygythiadau fel hyn.

Fe fydd yr etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal fel y disgwyl ddydd Iau.

Mae arweinwyr gwleidyddol y pleidiau eraill wedi condemnio'r ymosodiad.

Bydd gwylnos yn cael ei chynnal yn Abertawe nos Lun a munud o dawelwch fore Mawrth am 11:00 ar draws Prydain, er mwyn cofio'r rhai fu farw ac sydd wedi eu heffeithio.