麻豆官网首页入口

Pryder am effaith adeiladu Wylfa Newydd ar dwristiaeth

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon

Gallai fod yn ergyd i dwristiaeth Ynys M么n pe byddai miloedd o adeiladwyr Wylfa Newydd yn cael eu cartrefu'n lleol, yn 么l pennaeth cwmni twristiaeth.

Mae trydydd ymgynghoriad ar y prosiect gwerth 拢10bn yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Bydd hyd at 8,000 o weithwyr yn rhan o'r gwaith adeiladu, ac fe fydd tua 4,000 o'r rheiny ar un campws arbennig.

Dywedodd y datblygwr mai dim ond 3% o ddarpariaeth leol fyddai gweddill y gweithwyr yn ei gymryd.

'Cam yn 么l'

Cyn cyfarfod ddydd Iau, fe rybuddiodd pennaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, Jim Jones yn erbyn defnyddio llety gwyliau.

"Mae datblygiad Wylfa Newydd yn fuddsoddiad enfawr i economi M么n ac mae ganddo'r potensial o fod yn gatalydd gr锚t," meddai.

"Ond mae perygl hefyd, os oes miloedd o weithwyr yn cael eu cartrefu mewn llety gwyliau ar draws yr ynys, y gallai fod yn gam yn 么l i'n diwydiant twristiaeth."

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyluniad artist o adweithydd arfaethedig Wylfa Newydd

Mae'r cwmni y tu 么l i'r orsaf b诺er - P诺er Niwclear Horizon - yn gobeithio cyflwyno cais cynllunio swyddogol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Pan yn weithredol, mae disgwyl i Wylfa Newydd greu 850 o swyddi parhaol, ac mae Horizon yn gobeithio dechrau cynhyrchu p诺er erbyn 2025.

Yr amcangyfrif yw y gallai hyn fod gwerth mwy na 拢20m y flwyddyn i'r economi leol, a hynny mewn cyflogau'n unig.

'Ymwybodol o'r pryderon'

Dywedodd Richard Foxhall o Horizon eu bod yn "ymwybodol o'r pryderon yn y sector llety", a'u bod yn croesawu pobl i roi eu barn yn ystod yr ymgynghoriad.

"Ond, rydyn ni'n credu'n gadarn y bydd ein cynigion mwy cryno - fydd yn gweld gweithwyr adeiladu'n cael eu cartrefu ar un safle yn hytrach na phump - yn haws i'w reoli ac yn lleihau unrhyw effeithiau ehangach posib ar draws yr ynys," meddai.

Dywedodd y cwmni y byddai hyd at 4,000 o adeiladwyr yn cael eu cartrefu ar un campws, fyddai'n cael ei adeiladu'n arbennig ar eu cyfer.

Mae'n gobeithio y bydd 2,000 yn bobl leol fyddai'n teithio i'r gwaith o gartref, ac y bydd y gweddill - rhwng 2,000 a 3,000 - yn byw mewn llety wedi'i rentu neu ar gyfer twristiaid.