麻豆官网首页入口

Cyfle olaf i roi adborth ar gynlluniau Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon

Bydd yn rhaid i bobl sydd yn byw ac yn gweithio ar Ynys M么n roi eu hadborth ar Wylfa Newydd erbyn nos Iau wrth i gwmni P诺er Niwclear Horizon gynnal ymgynghoriad am eu cynlluniau diweddaraf.

Fis Mai cyhoeddodd y cwmni eu bod bellach am godi atomfa lai, fyddai'n golygu llai o waith adeiladu.

Er hynny, mae Horizon yn amcangyfrif y byddai dal angen tua 8,000 o weithwyr i godi'r orsaf b诺er.

Pryder

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth pennaeth Twristiaeth Gogledd Cymru fynegi pryder am effaith adeiladu Wylfa Newydd ar dwristiaeth.

Cyn cyhoeddi'r cynllun diweddaraf roedd pryderon am effaith y cyfnod adeiladu ar wasanaethau cyhoeddus, yr iaith Gymraeg a diwylliant yr ynys.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyluniad artist o adweithydd arfaethedig Wylfa Newydd

Dywed Horizon eu bod yn gobeithio bod y cynllun diweddaraf wedi tawelu'r ofnau hynny.

Dywedodd prif weithredwr Horizon, Duncan Hawthore: "Bydd eich adborth chi yn holl bwysig o ran helpu siapio ein cais terfynol ar gyfer y prosiect, sicrhau bod y prosiect yn arwain at gymaint o fuddion 芒 phosib, rheoli unrhyw effeithiau, a bod yn gymydog da drwy gydol oes i Wylfa Newydd."

Ymgynghoriad arall

Ar 么l i'r ymgynghoriad ddod i ben dywedodd Horizon y byddan nhw'n edrych ar yr holl sylwadau cyn cwblhau'r cynlluniau.

Y bwriad yw cyflwyno cais i adeiladu'r orsaf b诺er yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Dywed Horizon yn dweud y byddan nhw hefyd yn ymgynghori ar wah芒n ar agweddau eraill o'r prosiect.

Bydd hyn yn cynnwys gwella'r A5025 rhwng Y Fali a safle Wylfa Newydd.

Mae disgwyl manylion ar yr agweddau hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.