Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2018 yn swyddogol

Mae Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 wedi cael ei chyhoeddi'n swyddogol.

Fe gafodd seremoni gyhoeddi ei chynnal ar lawnt Neuadd y Ddinas yng nghanol Caerdydd.

Yr Archdderwydd, Geraint Lloyd Owen oedd yn arwain y seremoni gyda chadeirydd y pwyllgor gwaith Ashok Ahir yn cyflwyno'r rhestr testunau.

Roedd hefyd cyfres o ddigwyddiadau gyda gorymdaith yn y brifddinas gydag aelodau o'r Orsedd yn bresennol.

Disgrifiad o'r llun, Ashok Ahir yw Cadeirydd Pwyllgor gwaith Eisteddfod Caerdydd 2018
Disgrifiad o'r llun, Roedd Ashok Ahir yn gyfrifol am gyflwyno'r rhestr testynau i'r Archdderwydd, Geraint lloyd Owen

Dywedodd Mr Ahir: "Dwi'n falch i fod yn rhan o'r broses.

"Mae 'na lot o bobl yn gweithio'n galed," meddai.

"Nawr mae'r gwaith technegol o gael y Bae yn barod i wneud yn si诺r fod pobl dros y ddinas eisiau bod yn rhan o 诺yl bwysig fel hon".

Fe gychwynodd yr orymdaith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd toc ar 么l 14.00 cyn mynd drwy'r dref cyn dychwelyd i Barc Cathays a lawnt Neuadd y Ddinas.

Disgrifiad o'r llun, Roedd aelodau o'r Orsedd yn rhan o'r orymdaith drwy ganol Caerdydd

Dyma'r Eisteddfod gyntaf fydd heb faes penodol, gyda'r pebyll a chystadlu wedi gwasgaru ar draws canol y brifddinas ac yn 么l Prif Weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts mae'n gobeithio bydd yn denu cynulleidfa newydd.

"Mae 'na waith egluro wrth bobl beth yr ydym yn drio ei neud, a'r arwyddion rydym yn cael ydi bod pobl yn derbyn y sialens.

"Mae'r trefniadau yn mynd yn dda, mae 'na d卯m ifanc, brwdfrydig yn gweithio yma yn enw'r Eisteddfod.

"Y nod ydi cael Eisteddfod lwyddiannus yng Nghaerdydd".

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn ardal y Bae o 3-11 Awst 2018.

Disgrifiad o'r llun, "Y nod ydi cael Eisteddfod lwyddianus yng Nghaerdydd", yn 么l y Prif Weithredwr, Elfed Roberts