Methu targedau ar recriwtio a hyfforddi athrawon

Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru wedi dangos fod y targedau ar gyfer recriwtio athrawon dan hyfforddiant ar gyfer ysgolion uwchradd wedi ei fethu yn 2015/16.

Roedd llai hefyd wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau hyfforddiant dysgu nag yr oedd y llywodraeth wedi ei obeithio.

Dywedodd Owen Hathway, Swyddog Polisi Cymru ar gyfer undeb yr NUT, fod pwysau gwaith yn rheswm pam fod llawer yn dewis peidio dilyn gyrfa fel athrawon.

Mae'r llywodraeth wedi dweud y byddan nhw'n edrych ar y patrwm mewn rhagor o fanylder.

'Denu'r goreuon'

Cafodd y targed ar gyfer recriwtio athrawon dan hyfforddiant ar gyfer ysgolion uwchradd ei fethu o draean, tra bod y nifer ar gyfer ysgolion cynradd ychydig yn is na'r targed.

Dangosodd y ffigyrau hefyd fod y nifer oedd ar gyrsiau hyfforddi i fod yn athrawon 19% - neu 235 o bobl - yn is na'r targed.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod recriwtio ar gyfer hyfforddiant athrawon wedi parhau'n gryf o'i gymharu 芒 niferoedd graddedigion ar y cyfan, a'u bod yn gweithio 芒 phartneriaid i ddod o hyd i'r rhesymau am y patrwm.

"Rydyn ni eisiau i addysgu yng Nghymru fod yn swydd sydd yn ddewis cyntaf, fel bod modd i ni ddenu'r goreuon," meddai llefarydd.

Roedd y llefarydd hefyd yn dweud fod rheolau newydd gafodd eu cyhoeddi yn y gwanwyn yn rhan o'r ymdrech i recriwtio rhagor.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Dywedodd un gyn-athrawes yn Rhondda Cynon Taf, oedd ddim am gael ei henwi, ei bod hi wedi rhoi'r gorau i ddysgu llawn amser ar 么l dim ond dwy flynedd, a hithau'n 24 oed.

Roedd hi'n gweithio 11 awr y dydd yn cynnwys yr holl gynllunio a marcio, gan weithio hefyd drwy ei phenwythnosau a'i gwyliau.

"Ro'n i'n teimlo'n rhy ifanc i gael fy nghlymu lawr fel 'na, doedd gen i fawr o fywyd cymdeithasol.

"Roedd yr athrawon h欧n yn teimlo'n isel.

"Roedd gwaith yn llenwi hanner tymor a gwyliau'r haf, achos doedd dim modd i chi ffitio'r holl farcio a chynllunio 'na i mewn fel arall.

"Ro'n i'n teimlo mor wael yn gadael, dwi dal yn teimlo felly. Dwi'n teimlo fel mod i weld gadael y disgyblion i lawr."

'Pwysau'

Yn 么l Mr Hathway mae pwysau gwaith yn un o'r prif resymau pam nad yw pobl eisiau bod yn athrawon, gyda ffigyrau ddaeth i law yr NUT yn dangos fod 50,000 o ddyddiau dysgu wedi eu colli yng Nghymru yn 2016 oherwydd straen.

"Mae pobl wedi gweld y pwysau ac mae'n broblem go iawn, yn achosi salwch, ac mae hynny'n golygu bod pobl ddim eisiau dysgu," meddai.

"Maen nhw'n gweld cyflogau'n cael eu rhewi, toriadau i bensiynau a th芒l, gofyn i athrawon weithio'n hirach, ac mae'r manteision materol - er nad dyna'r rheswm pam mae pobl yn dewis bod yn athrawon ar y cyfan - yn dod yn llai a llai deniadol."

Ychwanegodd fod llawer yn gadael o fewn y flwyddyn gyntaf.

"Dwi ddim yn dweud fod argyfwng yn y proffesiwn dysgu ar hyn o bryd, ond mae'n agos谩u at ddod yn argyfwng."