麻豆官网首页入口

Wylfa Newydd: Hitachi yn gwadu ymbellhau o'r cynllun

  • Cyhoeddwyd
Horizon

Mae cwmni Hitachi wedi gwadu eu bod eisiau lleihau eu perchnogaeth o'r cwmni sy'n gyfrifol am gynllun atomfa Wylfa Newydd yn Ynys M么n.

Yn 么l adroddiadau yn Japan mae Hitachi yn ceisio denu buddsoddwyr newydd i'w his-gwmni, Horizon.

Os na fydd buddsoddwyr yn dod i'r fei mae un adroddiad gan asiantaeth newyddion Nikkei Asia yn dweud y gallai cynllun Wylfa Newydd gael ei atal.

Dywedodd llefarydd ar ran Horizon mai bwriad Hitachi o'r dechrau oedd sicrhau arian o ffynonellau eraill er mwyn cwblhau'r gwaith.

'Denu buddsoddiad'

Dywedodd llefarydd: "Dyw hi ddim, nac erioed wedi bod, yn fwriad gan Hitachi i werthu Horizon yn llwyr.

"Ry'n yn hyderus iawn y byddwn yn denu'r buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer y prosiect."

Ffynhonnell y llun, Horizon

Ddydd Mercher dywedodd mudiad gwrth-niwclear Pawb fod yr adroddiadau o Japan yn codi nifer fawr o gwestiynau.

Dywedodd y gr诺p: "Mae'n gwbl amlwg na fydd yna Wylfa B oni bai bod Hitachi yn perswadio llywodraethau San Steffan ac o bosib Japan i sicrhau eu bod yn denu buddsoddwyr masnachol.

"Ac eto fyth felly, bydd gofyn i'r trethdalwr druan gyfrannu'n ariannol."

Ddydd Iau diwethaf oedd y cyfle olaf i'r cyhoedd roi adborth ar gynlluniau diweddaraf Horizon ar gyfer Wylfa Newydd.

Y bwriad yw cyflwyno cais i adeiladu'r orsaf b诺er yn nes ymlaen yn y flwyddyn.