麻豆官网首页入口

Menai y Crwban yn gwella yn Gran Canaria

  • Cyhoeddwyd
'Menai' y crwban yn S诺 M么rFfynhonnell y llun, S诺 M么r
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Menai y Crwban ei darganfod ar draeth ar Ynys M么n n么l ym mis Tachwedd

Mae Crwban m么r trofannol gafodd ei ddarganfod mewn cyflwr difrifol ar lan afon Menai ar Ynys M么n wedi cymryd cam pellach at gael ei ryddhau yn n么l i'r gwyllt.

Mae Menai y crwban wedi bod dan ofal S诺 m么r ar yr Ynys ers cael ei ddarganfod n么l ym mis Tachwedd llynedd.

Bellach mae'r crwban m么r pendew 'Kemp' neu 'Olive Ridley' wedi cyrraedd ynys arall, Gran Canar茂a, mewn lloches arbennig i grwbanod ble bydd yn treulio'r mis nesaf cyn cael ei dychwelyd i'r gwyllt.

Pan gafodd Menai ei darganfod dywedodd fil feddygon ei "bod yn lwcus i fod yn fyw"

Mae Crwbanod o'r fath i'w cael fel arfer mewn moroedd cynnes a throfannol ger Mecsico a de'r UDA, a dydyn nhw ddim fel arfer yn goroesi mewn dyfroedd oerach o gwmpas Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y biolegydd m么r, Frankie Hobro bod "Menai i weld yn hapus iawn."

Dywedodd y biolegydd mor, Frankie Horbro fu'n gofalu am Menai yng Nghymru:

"Mae'r cyfleusterau yn Gran Canar茂a yn rhai arbenigol gyfer Crwbanod ble maen nhw'n cael eu hadfer a'u rhyddhau yn 么l i'r gwyllt.

"Ar y cyfan mae hi'n edrych yn hapus iawn yma", meddai.

Ar 么l gwella bydd Menai yn cael ei thagio gyda sglodyn ble fydd modd ei dilyn gyda lloeren a bydd hi'n dychwelyd i'w chynefin naturiol.