麻豆官网首页入口

Eisteddfod yr Urdd 2018 am roi 'hwb i'r iaith' yn yr ardal

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Daeth cannoedd i'r 诺yl gyhoeddi yn Aberhonddu

Mae cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd flwyddyn nesaf yn hyderus y bydd yr 诺yl yn rhoi "hwb i'r iaith" yn yr ardal.

Yn 么l Stephen Mason mae'n bwysig bod yr 诺yl, sydd yn cael ei chynnal ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ym mis Mai 2018, yn dod i Frycheiniog a Maesyfed.

"Mae'n ardal sydd eisiau hwb i'r iaith a fi'n credu bydd Eisteddfod yr Urdd yn dod yma yn hwb enfawr i'r iaith ac i'r plant, ac yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw nawr, fydd hefyd gobeithio yn cario ymlaen i'r dyfodol."

'Hen bryd' ymweld eto

Roedd yn siarad wrth i'r 诺yl gyhoeddi ddigwydd yn Aberhonddu.

Dyma'r tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld 芒 Brycheiniog a Maesyfed ers 1978.

Dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Si么n fod hi'n "hen bryd" ymweld 芒'r ardal unwaith eto.

"Mae'n ardal heriol, ardal wledig iawn, lot o'r di-Gymraeg ond hefyd lot o Gymry Cymraeg yma hefyd.

"Felly mae'n bwysig iawn bod ni yn dod i ardaloedd fel hyn i genhadu, ac wrth gwrs mae'r brwdfrydedd mae ymweliad y 'steddfod yn rhoi yn golygu fod 'na fwy o aelodau 'da'r Urdd yma, ac mae'n hwb i'r iaith Gymraeg yn yr ardal."

Efallai o ddiddordeb....

Yn ystod y bore fe wnaeth cannoedd orymdeithio trwy'r dref oedd yn cychwyn o Ysgol Uwchradd Aberhonddu.

Cyflwynwyr rhaglen Cyw ar S4C, Huw ac Elin oedd yn arwain.

Yn y prynhawn roedd Bromas, Band Tref Aberhonddu a Martyn Geraint yn perfformio a chyflwyniadau gan ysgolion yr ardal.

Yn 2016 cafodd swyddog ei phenodi yn benodol i ddatblygu aelodaeth yr Urdd yn ardal Brycheiniog a Maesyfed ac fe ddywedodd y swyddog y bydd yna "deimlad gwahanol" i'r w欧l am fod y maes fel arfer yn cael ei ddefnyddio i gynnal y Sioe Fawr.

Mae Stephen Mason yn cydnabod bod yna her am fod yr ardal mor eang ond bod pobl wedi arfer teithio o fewn y sir.

Dywedodd hefyd bod miloedd yn y coffrau yn barod.

"Dw i wedi cael fy synnu ar yr ochr ore o ran beth sydd wedi cael ei godi yn barod. Mae gyda ni fisoedd i fynd eto ond mae'n edrych yn dda."