麻豆官网首页入口

Rhybudd am ddyfodol gwasanaethau gofal ac ysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau cynghorau

Ni fydd cynghorau yng Nghymru yn gallu "cario ymlaen am byth" i warchod gwariant ar ysgolion a gofal cymdeithasol os yw Llywodraeth y DU yn parhau i dorri cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus, yn 么l Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Mae llefarydd cyllid CLlLC, y Cynghorydd Anthony Hunt yn galw ar weinidogion yn San Steffan i ddod a'r cyfnod o lymder i derfyn gan fod gwasanaethau lleol yng Nghymru "ar y groesffordd".

Mae cynghorau yn gwario tua 55% o'u cyllidebau ar y gwasanaethau craidd o addysg a gofal cymdeithasol.

Dydd Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd cyfanswm cyllidebau cynghorau i leihau 0.5% y flwyddyn nesaf

Toriad

Bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gwerth 拢15.3 biliwn yn golygu toriad o rhwng 1.5% a 2% ar 么l chwyddiant y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Hunt, sydd hefyd yn arweinydd Cyngor Torfaen: "Gallaf sicrhau y bydda i a chynghorau eraill yn gweithio'n galed i sicrhau'r effaith leiaf posibl ar gyllidebau ein hysgolion ond ni allwn symud ymlaen am byth yn amddiffyn ysgolion a gofal cymdeithasol os yw'r cyfnod o lymder yn parhau.

"Felly, rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i'r cyfnod o lymder fel y gallwn fuddsoddi'n iawn yn addysg ein plant, mewn gofal cymdeithasol i'r rhai sy'n fregus ac i'r gwasanaethau cymunedol y mae pobl yn eu gwerthfawrogi.

"Rydyn ni ar y groesffordd, rwy'n credu ar hyn o bryd, gyda gwasanaethau lleol. Naill ai, rydym yn cydnabod yr angen i ariannu ein gwasanaethau lleol ac adeiladu ar ein gwasanaethau lleol neu gyda thoriadau parhaus fydd rhaid i bethau dioddef," ychwanegodd Mr Hunt.

Mae cyllidebau cynghorau yn cynnwys grant gan Llywodraeth Cymru, arian o dreth y cyngor, arian sydd wedi ei fenthyg, a chodi tal am wasanaethau.

Ddydd Sul, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford estyniad i gynllun budd dal ar gyfer treth y cyngor gwerth 拢244m sy'n golygu y bydd miloedd o bobl, ddim ond yn talu rhan o'r dreth, neu dim byd o gwbl yn 2018/19.

Fe ddaeth y cyhoeddiad cyn y bydd y gweinidog yn ysgrifennu at bob un awdurdod lleol ddydd Mawrth i gyhoeddi faint o gyllid fydd ganddyn nhw ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Ar 么l i ffrae ddatblygu yn 2015 oherwydd toriadau mawr i rai o'r cynghorau gwledig, roedd gweinidogion wedi newid y fformiwla'r llynedd er mwyn sicrhau llai o wahaniaeth rhwng setliadau'r gwahanol gynghorau.

'Sgwrs aeddfed'

Er mwyn sicrhau nad oedd yr un cyngor yn dioddef gostyngiad o fwy na 0.5% i'w cyllideb, roedd rhai wedi derbyn arian ychwanegol y llynedd hefyd. Dyw e ddim yn eglur os bydd system debyg yn cael ei ddefnyddio eleni.

Ond gyda chynghorau yn disgwyl llai o arian gan weinidogion Cymru, mae Debbie Wilcox, arweinydd Cyngor Casnewydd a CLlLC, eisoes wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru ei bod hi'n methu gweld sut y gall cynghorau wneud unrhyw beth ond cynyddu treth y cyngor o 5% y flwyddyn nesaf er mwyn ceisio lleihau'r digolledon.

Hefyd, mae arweinydd cyngor Wrecsam wedi dweud dyw hi ddim yn bosib i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru orwario tra bod cynghorau yn wynebu toriadau parhaus.

Dywedodd Mark Pritchard wrth siarad gyda rhaglen 麻豆官网首页入口 Radio Wales, Sunday Supplement, bod angen "sgwrs aeddfed" yngl欧n 芒'r ffordd mae cynghorau a'r GIG yn cael eu hariannu.

Cafodd arian ychwanegol ar gyfer y GIG ei gyhoeddi fel rhan o gyllideb ddrafft y llywodraeth wythnos diwethaf - 拢450m yn fwy dros ddwy flynedd.