Colegau Cymru'n ailfeddwl cefnogi corff ariannu newydd

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae colegau addysg bellach yn bygwth tynnu eu cefnogaeth ar gyfer corff ariannu newydd i addysg 么l-16 oed.

Dywedodd Colegau Cymru bod ei gefnogaeth i gomisiwn ariannu newydd yn y fantol oni bai bod chweched dosbarth ysgolion o fewn ei orchwyl.

Byddai'r corff newydd yn disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ac yn gyfrifol am golegau, prifysgolion a dysgu yn y gweithle.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ystyried ymateb i ymgynghoriad diweddar.

Disgrifiad o'r llun, Colegau Cymru sy'n cynrychioli colegau addysg bellach Cymru

Cafodd y cynlluniau am gorff fyddai'n goruchwylio addysg a hyfforddiant 么l-16 eu cyflwyno gan y llywodraeth yn dilyn adolygiad gan yr arbenigwr addysg Yr Athro Ellen Hazelkorn.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys cael gwared ar y Cyngor Cyllido Addysg Uwch a sefydlu corff fyddai 芒 mwy o gyfrifoldebau - y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru.

Colegau Cymru sy'n cynrychioli colegau addysg bellach Cymru, a dywedodd eu prif weithredwr mai un corff ddylai fod yn gyfrifol am ddarpariaeth mewn ysgolion a cholegau.

"Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i ni wahanu dwy ran o'r ddarpariaeth, sydd yr un mor bwysig ar gyfer dyfodol addysg 么l-16 a hyfforddiant yng Nghymru," meddai Iestyn Davies.

"Os dyw'r ysgrifennydd addysg a'r llywodraeth ddim yn ymrwymo i hynny, rydyn ni wir yn cwestiynu faint y byddwn yn gallu cefnogi sefydlu'r corff."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Iestyn Davies ei bod yn gwneud "dim synnwyr gwahanu dwy ran o'r ddarpariaeth"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu cyfraniad Colegau Cymru i'r ymgynghoriad diweddar ar gomisiwn i oruchwylio sgiliau a'r sectorau addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru.

"Roedd ein papur gwyn yn cynnwys cwestiynau penodol ar r么l bosib y comisiwn yngl欧n 芒 chweched ddosbarth ysgolion.

"Byddwn nawr yn cymryd yr amser i ystyried yr ymateb i'r Papur Gwyn cyn dechrau ymgynghoriad technegol yn y flwyddyn newydd."