Ymgynghori ar gynllun gwastraff niwclear Wylfa Newydd

Mae ymgynghoriad wedi dechrau i sut y bydd gwastraff niwclear o orsaf b诺er newydd ar Ynys M么n yn cael ei drin a'i waredu.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn am farn pobl leol ar gais Horizon am drwydded amgylcheddol i orsaf Wylfa Newydd, fydd werth 拢10bn.

Mae'r cais yn manylu ar sut y bydd y cwmni yn rheoli, dadlwytho, symud ac yna cael gwared 芒'r deunydd ymbelydrol.

Bydd CNC ond yn caniat谩u'r cais os yw'r corff yn "gwbl fodlon" gyda'r trefniadau.

Storio am 140 mlynedd

Y cais am drwydded sylweddau ymbelydrol yw'r cyntaf mewn cyfres o drwyddedau y bydd angen i Horizon eu sicrhau er mwyn gweithredu Wylfa Newydd, ar y safle yn Nhregele ger Bae Cemaes.

Bydd rhaid dangos sut y byddan nhw'n lleihau faint o wastraff ymbelydrol fydd yn cael ei greu.

Mae Horizon eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadu cadw'r gwastraff a'r tanwydd sydd wedi ei ddefnyddio mewn storfeydd pwrpasol ar y safle am hyd at 140 o flynyddoedd.

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 14 Ionawr, ac mae tair sesiwn i'r cyhoedd wedi eu trefnu:

  • Dydd Llun 20 Tachwedd, 14:00-19:00 yn Neuadd David Hughes, Cemaes;
  • Dydd Mawrth 21 Tachwedd, 14:00-19:00 yn Storiel, Bangor;
  • Dydd Mercher 22 Tachwedd, 11:00-16:00 yng Nghanolfan Ebeneser, Llangefni.
Disgrifiad o'r llun, Bwriad Horizon yw cadw'r gwastraff niwclear ar y safle am hyd at 140 o flynyddoedd

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol CNC yng ngogledd a chanolbarth Cymru, Tim Jones, y byddai'r corff yn cwblhau "asesiad trylwyr o gynlluniau Horizon i weld os ydyn nhw'n cynnwys mesurau diogelwch digonol i ddiogelu pobl a'r amgylchedd".

Ychwanegodd: "Byddwn yn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol sy'n cael ei amlygu yn ystod yr ymgynghoriad a buaswn yn gwerthfawrogi cael clywed barn pobl."

Trafferthion

Dywedodd y byddai ond yn caniat谩u trwydded os oedd yn sicr y byddai'r orsaf yn gweithredu'n ddiogel heb effeithio'r amgylchedd a chymunedau lleol.

Daeth y gwaith o gynhyrchu trydan i ben yn hen orsaf Wylfa ar ddiwedd 2015, a hynny wedi hanner canrif.

Byddai'r orsaf newydd yn weithredol am 60 o flynyddoedd.

Ond mae rhai ymgyrchwyr wedi mynegi eu gwrthwynebiad i'r orsaf niwclear, a'r gwastraff fydd yn cael ei greu.

Bydd yn rhaid i'r datblygwyr hefyd ddatrys trafferthion yngl欧n 芒 chynllunio, a phris y trydan fydd yn cael ei greu, cyn iddyn nhw gael caniat芒d llawn.