麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Geraint Cynan

  • Cyhoeddwyd
Geraint CynanFfynhonnell y llun, Geraint Cynan

Y cerddor Geraint Cynan sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Martyn Geraint wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bod mewn ystafell fawr crand tebyg i banqueting hall (meddyliwch am fersiwn lai o Hogwarts!) tra bod fy rhieni'n ymweld 芒 rhywun. Minne a'm mrawd h欧n yn whare 芒 theganne o dan y ford anferth.

O'n i ddim yn si诺r os mai atgof neu freuddwyd oedd hi, ond wedi holi'n rhieni, Neuadd Plas Llandinam oedd e, a'm rhieni yn ymweld 芒 Lady Davies. Byddwn i 'di bod yn dair ar y pryd.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Does gen i ddim cof o unrhywun... wir!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Canu mewn cyngerdd yn Theatr y Parc a'r D芒r, Treorci pan yn fyfyriwr, yn helpu'r gymdeithas gorawl leol gan fod prinder tenoriaid. Ro'n i'n darllen y darn ar y pryd, heb ei 'nabod. Popeth yn iawn tan wyth bar o'r diwedd. Stopiodd y gerddorfa a'r c么r... ond ganes i nodyn cywir yn uchel iawn yn y man anghywir... mewn tawelwch pur!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Fyddai'n ffindo bod rhai caneuon yn fy ngwneud i'n ddagreuol. Galla i ddim 芒 pheidio gollwng deigryn wrth glywed llais y diweddar Dafydd Dafis.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Dafydd Dafis yn enwog am ei lais anhygoel, unigryw, a'i ddawn ar y sacsoff么n

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Nag oes yn fy nhyb i. Oes, gormod i'w rhestru ym marn fy nheulu. Y mwya' fydde gorfodi trefn call ar y peiriant golchi llestri - fe wna i ail-stacio bob tro!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ry'n ni mor ffodus i fyw mewn gwlad mor bert. Anodd dethol un o blith traethau G诺yr, arfordir Penfro a Cheredigion, yr Eifl, dyffrynnoedd Tywi a Chlwyd... ond ma'r olygfa wrth deithio i'r gogledd pan yn dod dros y clip ar bwys Storey Arms ar y Bannau yn rhyfeddol ym mhob tywydd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Rhwng g锚m ola' camp lawn t卯m rygbi Cymru yn erbyn Iwerddon 2005, a g锚m Cymru yn erbyn Gwlad Belg Euro 2016... ffili rhannu rheiny mewn gwirionedd!

O Archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Penderfynol, Teg, Ffyddlon.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

LA Confidential, er bod The Shawshank Redemption yn ail agos iawn.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Fy niweddar ewythr, brawd mam - John Rhoslyn Davies. Roedd e'n arweinydd clasurol o'r radd flaenaf a fu farw yn ei dridegau. Yn 么l y s么n, roedd e'n athrylith.

Ffynhonnell y llun, Rhodri Tomos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Geraint (ail o'r dde) yn aelod o'r band Bwchadanas, a gafodd ei ffurfio yn 1984 gan fyfyrwyr Prifysgol Cymru Bangor. Enillodd y band C芒n i Gymru 1985 gyda'r g芒n Ceiliog y Gwynt

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Ma'n debyg ein bod ni'n perthyn o bell i'r enwog Annie Powell, maer Comiwnyddol y Rhondda yn yr 80au a ganodd Hen Wlad Fy Nhadau gerbron Khruschev yn y Kremlin!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Casglu'r teulu at ei gilydd a threulio amser yn bwyta, yfed, hel atgofion a'u dal nhw'n dynn.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Amhosib dewis un yn unig - ma'n newid drw'r amser. Ond mae Fortunate Son gan un o fy arwyr, Bruce Hornsby, yn un dwi byth yn blino arni.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Dwi ddim yn ddyn pwdin fel arfer, ond unrhyw brif gwrs neu ddechreuwr 芒 chig oen neu hwyaden. S'dim ots pa arddull, Ffrengig, Indiaidd, Asiaidd... (dwi'n glafoerio'n barod!)

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Geraint yn cynnig ei sgiliau cyfeilio i'r gyfres gerddorol Cythrel Canu - does dim gormod o ddadlau, gobeithio...

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Naill ai Mozart i ga'l deall beth yw gwir athrylith, neu bod yn aelod o d卯m rygbi, p锚l-droed neu griced rhyngwladol er mwyn profi'r wefr o gynrychioli Cymru (yn fy mreuddwydion, gwaetha'r modd).

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Branwen Gwyn