Vaughan Gething yn ystyried cyflwyno un targed canser

  • Awdur, Owain Clarke
  • Swydd, Gohebydd Iechyd 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae'n bosib y bydd targedau amseroedd aros canser yng Nghymru yn dod i ben yn sgil cynlluniau newydd gan yr Ysgrifennydd Iechyd.

Ar hyn o bryd mae dau lwybr posib er mwyn cael triniaeth, sy'n ddibynnu ar sut mae'r canser yn cael ei ddarganfod, ac mae gan y ddau lwybr dargedau aros gwahanol.

Ond mae pryderon nad yw'r system yn adlewyrchu pa mor hir mae rhai yn aros ers bod amheuaeth bod ganddyn nhw'r salwch.

Mewn araith yn ystod Cynhadledd Ganser Cymru yn ddiweddarach, bydd Vaughan Gething yn cyhoeddi "un llwybr canser" i holl fyrddau iechyd fesur perfformiad o fis Ionawr.

Bydd hynny'n golygu y bydd amseroedd aros yn gallu cael eu mesur yn yr un ffordd.

Disgrifiad o'r llun, Mae amseroedd aros canser yng Nghymru wedi aros yn gyson yn y blynyddoedd diwethaf er bod y galw am ofal wedi cynyddu

Y ddadl yw y bydd un llwybr triniaeth ac un targed yn sicrhau gofal cyflymach a gwell.

Croesawu'r penderfyniad, sydd wedi bod yn cael ei ystyried ers blynyddoedd, mae arbenigwyr canser ac elusennau.

Ond pan gafodd y cynllun ei dreialu gyntaf, roedd y gwrthbleidiau'n honni ei fod yn ymgais gan Lywodraeth Cymru i "newid targedau" nad oedden nhw yn gallu cyrraedd.

Disgrifiad o'r fideo, Mae Becky Thomas yn gweithio fel Nyrs datblygu safon gofal

Y targed

Ar hyn o bryd dylai 95% o achosion canser brys sydd wedi eu cadarnhau ddechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod.

Mae'r ail darged i gleifion sydd 芒 phroblemau iechyd ond heb gadarnhad mai canser yw'r salwch ar y dechrau.

Os yw'n dod i'r amlwg wedyn bod gan y cleifion ganser, yna dylai 98% ddechrau triniaeth o fewn 31 diwrnod i gytuno ar gynllun gofal.

Mae pryder bod rhai yn gorfod aros cryn amser cyn dechrau llunio cynllun gofal.

2008 oedd y tro diwethaf wnaeth Cymru gyfan gwrdd 芒'r targed 62 diwrnod, ond mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi cael mwy o lwyddiant gyda'r targed 31 diwrnod.

Yn gyffredinol, mae amseroedd aros canser wedi aros yn gyson yn y blynyddoedd diwethaf, er bod darogan bod cynnydd o 1.5% yn y galw am ofal.

Disgrifiad o'r llun, Mae Vaughan Gething yn cydnabod y gallai'r newidiadau fod yn "anodd"

Er rhai gwelliannau mae'r Ysgrifennydd Iechyd yn cydnabod nad yw'r GIG wedi cwrdd 芒'r targedau'n ddigon aml.

Os bydd Mr Gething yn cyflwyno'r system, bydd un targed canser, ond nid yw'n glir beth fyddai hwnnw.

Yn ei araith mae disgwyl i Mr Gething ddweud nad y nod yw "cuddio newyddion gwael", ac mae'n disgwyl i'r diwygiadau fod yn "anodd" ac "anwastad".

Ceisio 'cau'r bwlch'

O ganlyniad bydd byrddau iechyd yn parhau i gyhoeddi perfformiad ar sail y targedau presennol, tan fod penderfyniad terfynol wedi ei wneud.

Os bydd y targedau'n dod i ben mae'n bosib dadlau y bydd hi'n anoddach cymharu perfformiad canser Cymru gyda gwledydd eraill y DU.

Daw'r cynllun i newid y targedau wedi newidiadau mawr i'r ffordd mae amseroedd ymateb ambiwlans yn cael eu mesur yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Disgrifiad o'r llun, Yng Nghymru mae cyfraddau goroesi yn waeth na rhai gwledydd Ewropeaidd

Yr uchelgais meddai Mr Gething yw "cau'r bwlch mewn cyrhaeddiad gyda'n cyfoedion rhyngwladol".

Mae astudiaethau rhyngwladol wedi dangos yn y gorffennol bod cyfraddau goroesi Prydain, ac yn arbennig Cymru, yn wael o'i gymharu gyda gwledydd eraill Ewrop a gwledydd gyda systemau iechyd tebyg.

Ond mae nifer o gamau wedi eu cymryd yng Nghymru i wella'r cyfraddau goroesi, ac i gynnig mynediad cynt i brofion diagnostig, a thriniaethau i gleifion gyda symptomau sydd ddim o anghenraid yn rhai canser amlwg.