Ateb y Galw: Branwen Gwyn

Y cyflwynydd Branwen Gwyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Geraint Cynan wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy niwrnod cyntaf yn Ysgol Coed y Gof. Cofio arogli'r brechdanau o focsys bwyd pawb wrth hongian fy nghot binc!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Sean Maguire. Roedd o'n actio yn Eastenders cyn cael gyrfa fel canwr pop (gwael!). Roedd fy llofft wedi ei phlastro 芒 phosteri ohono. Ro'n i'n methu credu fy llygaid pan ddes i wyneb yn wyneb ag o yn LAX pan o'n i'n 28! (Roedd o dal yn ciwt!)

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ysgrifennu e-bost yn dweud rhywbeth reit amheus am rywun, a'i anfon at y person o dan sylw, yn lle fy ffrind! Dal yn crinjo wrth feddwl am hyn, er ei fod rhyw 15 mlynedd yn 么l!

Disgrifiad o'r llun, Paid 芒 phoeni, Branwen - mae Sean Maguire dal i fod yn olygus!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Wrth wylio rhai o'r ffilmiau torcalonnus am blant s芒l ar raglen Plant Mewn Angen.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n ychydig bach o control freak!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caerdydd. Dwi wedi byw yma ers i mi fod yn 10 mis oed, a fan hyn fydda'i. Dwi'n caru'r lle ac yn falch iawn fy mod yn dod o'r brifddinas.

O Archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson fy mhriodas i ac Elis yn 2013. Digon o prosecco, teulu a ffrindiau, a gorffen y parti efo sing-song rownd y piano!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Trefnus, positif, creadigol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Good Will Hunting - mae'n gwneud i mi gr茂o bob tro.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Daeth Branwen (ar y dde) yn adnabyddus fel un o griw cyflwynwyr Planed Plant

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Y digrifwr Greg Davies, i fi gael chwerthin drwy'r nos!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Dwi wrthi'n astudio ar gyfer MA mewn Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i barc antur yn ystod y dydd, a chael gwledd Tsein茂aidd efo fy nheulu a fy ffrindiau gyda'r nos.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Anodd dewis un, ond dwi wrth fy modd efo Gorwedd Gyda'i Nerth gan Eden. Mi fydd fersiwn (wych!) ohoni ar CD newydd C么rdydd sy'n cael ei chyhoeddi yn 2018 (plyg bach yn fan'na!).

Disgrifiad o'r fideo, Enillodd C么rdydd wobr C么r yr 糯yl yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

King prawns mewn menyn garlleg, lasagne cartref efo top crispy a chawslyd, a chacen gaws salted caramel - ydy hynna'n ddigon manwl?!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Esyllt, fy merch 5 oed - i fi gael bod yn bry' ar y wal a chael gweld sut mae hi'n ymddwyn yn yr ysgol!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Rhodri Llywelyn