麻豆官网首页入口

Fy stafell i: 'Dolig teulu Glanaethwy

  • Cyhoeddwyd

Mae Cefin a Rhian Roberts, cyfarwyddwyr Ysgol Glanaethwy, yn addurno pob ystafell yn eu t欧 yn barod ar gyfer y Nadolig bob blwyddyn. Mi gafodd Cymru Fyw gipolwg ar yr addurniadau trawiadol a chlywed rhagor am y traddodiad teuluol. Iolo Penri yw'r ffotograffydd:

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae'n draddodiad ers i ni symud i'r t欧 yma yn 1982, ond mae o wedi datblygu yn flynyddol! Mae pob ystafell yn y t欧 yn cael triniaeth wahanol, a'r thema ydy gwahanol liwiau, yn dibynnu ar beth sy'n gweddu i'r ystafell.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae gynnon ni bedair coeden o gwmpas y t欧, ac maen nhw'n wahanol iawn. Pan fyddwn ni'n addurno'r t欧 ar unrhyw adeg, fyddai'n meddwl am y Nadolig a chadw'r addurniadau mewn cof a beth fyddai'n gweddu yn dda. Thema'r ystafell fwyta ydy gwyrdd, coch ac aur traddodiadol.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae 'na 12 diwrnod Dolig, ac mae eisiau g'neud rhywbeth bob dydd am 12 diwrnod. Fyddwn ni'n mynd o gwmpas y teulu a mynd i d欧 ffrind am noson murder mystery ar 么l y Nadolig. Mae'n gymaint o hwyl. Mae'n gyfnod pan fydd y teulu i gyd yn dod at ei gilydd.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae gynnon ni wyrion erbyn hyn, a dwi'n meddwl wrth addurno am y petha' fysa'n denu llygaid plentyn. Dwi'n eu ystyried nhw wrth addurno bob tro.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Dwi'n gasglwr wrth reddf, dwi'n casglu llyfrau, crochenwaith, lluniau, figurines... sydd yn dipyn bach o boendod i bawb arall!

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Dwi'n rhamantydd. Dwi'n edrych ar hen luniau Fictorianaidd gydag anrhegion o dan y goeden, ac maen nhw'n fy ysbrydoli wrth addurno. Mae yna gyfuniad o addurniadau yma.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae dylanwad theatrig ar y goeden hon.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Addurniadau sy'n gweddu 芒 lliw yr ystafell.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae pob 'stafell yn cael triniaeth unigryw, ac mae'r gegin yn edrych yn wahanol iawn i weddill y t欧.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae'r arian a'r du yn gweddu'n berffaith yn y gegin.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae pawb yn gofyn i gael dod draw, felly eleni fe wnaethon ni drefnu open house ar ddydd Sul Rhagfyr 17 ac agor y drws i bawb sy'n galw heibio a rhoi cyfraniad er cof am Irfon [Williams]. Mae ei blant yn y c么r [Glanaethwy] efo ni, a dyma yw ein cyfraniad ni er cof amdano.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae gen i goeden gofio. Mae lluniau mewn fframiau a baubles 芒 lluniau ynddyn nhw. Mae hwn yn ffordd o gofio pobl sydd ddim efo ni ddim mwy. Fedrai ddim deall pobl sy'n cas谩u y Dolig, ond fedrai ddeall bod 'na dristwch o gwmpas y Dolig, ac mae'n amser i gofio. Fyddwn ni'n cynnig llwnc destun i gofio am ffrindiau a theulu ar y diwrnod.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Fe wnaethon ni adeiladu derbynfa fawr yn y t欧 a wnaethon ni'n si诺r ei fod yn ddigon uchel fel bod coeden fawr yn gallu ffitio'n dda. Mae ganddon ni spiral staircase ac mae'r goeden fawr yn edrych yn hyfryd.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae rhai o'r addurniadau yn sentimental, pethau wnaeth fy mhlant i eu gwneud yn yr ysgol gynradd, mae 'na hen addurniadau roedd fy rhieni i'n arfer eu rhoi fyny yn eu t欧 nhw. Mae pob dim yn bwysig i'r cyfanwaith. Mae 'na rai addurniadau dwi'n gorfod eu rhoi fyny bob blwyddyn - yr anrhegion roedd ein merch Mirain yn arfer eu gwneud i Si么n Corn, a chardiau Dolig anferth oedd Tirion y mab yn eu rhoi i ni. Mae 'na betha fel 'na yn dod allan i ni gael hwyl, mae'n dod 芒 gw锚n i ni. Mae'n bwysig i gadw traddodiadau yn fyw.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae Rhian a fi mor brysur trwy'r flwyddyn, ond 'dan ni'n cymryd pythefnos o wyliau bob haf a dros y Dolig, lle does neb yn gallu fy nhemptio i allan! Dwi isio bod efo fy nheulu.

Nadolig Llawen!

Hefyd o ddiddordeb: