麻豆官网首页入口

Dewch i gyfarfod dau gyflwynydd newydd Radio Cymru 2

  • Cyhoeddwyd
Dafydd a Caryl

Bydd gwasananeth newydd sbon Radio Cymru 2 yn dechrau yn y flwyddyn newydd ond mae'n bosib y byddwch chi wedi clywed lleisiau'r ddeuawd fydd yn cyflwyno'r rhaglen gyntaf rhywle o'r blaen!

Bydd Dafydd Meredydd a Caryl Parry Jones yn ail afael yn eu perthynas radio i gynnig rhaglen fywiog, hwylus rhwng 06:30 a 08:30 o ddydd Llun i ddydd Iau ar yr orsaf ddigidol newydd fydd yn darlledu am y tro cyntaf ar 29 Ionawr 2018.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Caryl a Dafydd fydd yn 么l ar y tonfeddi gyda'i gilydd am y tro cyntaf ers 2014:

Caryl: Y job neisa' dwi 'rioed wedi ei chael oedd cyflwyno efo Daf, a dwi rili wedi gweld eisiau'r rhaglen, nid dim ond oherwydd y gwmn茂aeth gyda Daf a'r t卯m cynhyrchu ond ymateb y gwrandawyr. Roedd yn ffordd neis iawn o gychwyn y diwrnod. Ro'n i'n cael laff bob bore.

Dafydd: Ond fydd hwn ychydig fel gorffen gyda chariad a wedyn mynd yn 么l. Bydd hi fel cynnau t芒n ar hen aelwyd.

Caryl: Dydy hi ddim fel bod ni wedi dympio'n gilydd. Pan wnaethon ni'r rhaglen beilot, oedd hi jest fel ein bod ni wedi bod yn darlledu gyda'n gilydd y diwrnod cynt. Wnaethon ni jest cario 'mlaen o ble orffennon ni. Efo ffrindia' da, does dim rhaid i chi weld eich gilydd yn aml, chi jyst yn ailgydio ymhle gorffennoch chi.

Dafydd: Mi fyddwn ni'n cychwyn yn gynnar iawn yn y bore am 06:30. Mae hynna yng nghefn fy meddwl i, gan y byddwn ni'n gorfod codi'n eithriadol o gynnar.

Caryl: Ond ar 么l dydd Iau, mae ganddom ni bedwar diwrnod i ddadflino.

Dafydd: Fel gwrand盲wr, 'dwi'n edrych ymlaen yn fawr at glywed y cyflwynwyr eraill - Huw Stephens, Lisa Angharad a Lisa Gwilym achos maen nhw'n mynd i fod yn cyflwyno y math o raglenni y byswn i'n mwynhau gwrando arnyn nhw yn y bore.

Disgrifiad,

Dafydd a Caryl yn cyhoeddi cyflwynwyr Y Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2.

Caryl: A r诺an, bydd pobl yn cael y dewis. Beth da ni'n 'neud yw cesio gwneud yn si诺r bod teuluoedd yn hapus cyn eu bod nhw'n gadael y t欧 a'u bod yn gallu gwrando ar y math o raglen adloniadol fuaset ti ddim yn ei chael os mai dim ond un gorsaf sydd yna.

Dafydd: Mae'r Post Cyntaf yn rhaglen eithriadol o dda, sydd yn gwneud yn dda o ran ymateb a ffigurau. Ond dydy hynny ddim yn golygu na ddylwn ni gynnig dewis, a dyna beth da'n ni'n obeithio ei 'neud. Mae teuluoedd yn llawer mwy cymhleth erbyn hyn, rhai gydag un rhiant sydd ddim yn siarad Cymraeg.

Caryl: Roedd lot o ddysgwyr yn arfer gwrando arnom ni, wedi d'eud hynny 'dwi ddim yn gw'bod be' oeddan nhw yn ddysgu! Ond roedden ni'n cael lot o adborth gan ddysgwyr oedd yn mwynhau'r rhaglen oherwydd nad oeddan nhw ddim mor hyderus 芒 hynny yn siarad Cymraeg. Roedden nhw'n mwynhau'r gymysgedd o gerddoriaeth, j么cs a chlywed am ambell i berson oedd yn gyfarwydd iddyn nhw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwaith hyrwyddo'r orsaf newydd wedi dechrau'n barod

Amserlen Radio Cymru 2:

Dydd Llun - Iau, 06:30 - 08:30: Dafydd a Caryl

Dydd Gwener, 06:30 - 08:30: Huw Stephens

Dydd Sadwrn, 07:00 - 09:00: Lisa Angharad

Dydd Sul, 08:00 - 10:00: Lisa Gwilym