Carwyn Jones yn wfftio cyhuddiadau o gamarwain

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi wfftio cyhuddiad ei fod wedi camarwain y Cynulliad.

Wrth siarad ar raglen Sunday Politics Wales, dywedodd Mr Jones ei fod yn "glynu at yr atebion a roddais" wedi i'r cyn-weinidog Leighton Andrews honni fod Mr Jones wedi camarwain ACau "ar sawl achlysur".

Ar o leia' dau achlysur ers 22 Tachwedd, mae Carwyn Jones wedi gwadu fod unrhyw honiadau wedi eu cyflwyno iddo mewn perthynas 芒 chod ymddygiad ymgynghorwyr arbennig.

Ond mewn e-bost at y prif weinidog a gafodd ei yrru ddydd Mawrth diwethaf, dywedodd Leighton Andrews:

"Mae'n ddrwg gen i ddweud fy mod yn credu i chi gamarwain y Cynulliad Cenedlaethol sawl tro ers marwolaeth Carl Sargeant, yn benodol mewn atebion i Gwestiynau i'r Prif Weinidog ar 21 Tachwedd a 5 Rhagfyr, ac mewn amryw atebion ysgrifenedig ynghylch yr hyn yr oeddech yn ei wybod am fwlio neu faterion eraill o bryder, a oeddwn i ac eraill wedi cyflwyno cwynion i chi neu wedi galw am ymchwiliad ffurfiol, ac a gafodd cwestiynau eu codi gyda chi ynghylch a oedd ymgynghorydd arbennig wedi torri'r cod ymddygiad i ymgynghorwyr arbennig."

Disgrifiad o'r llun, Mae Leighton Andrews yn dweud ei fod yn credu fod Carwyn Jones wedi camarwain y Cynulliad

Cyhuddiadau'n amrywio

Wrth ymateb i'r honiad, dywedodd Carwyn Jones wrth Sunday Politics Wales: "Rwy'n glynu at yr atebion a roddais.

"Dydw i ddim yn gwybod beth yw'r cyhuddiadau bellach, mae cymaint ohonyn nhw ac maen nhw'n amrywio gydag amser.

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig i bawb ein bod yn delio gyda'r mater yma yn y modd cywir, ac na ddylai gael ei drin yn y cyfryngau ond fel rhan o ymchwiliad gan yr Ymgynghorydd Annibynnol."

Roedd y prif weinidog yn mynnu nad oedd cyfres o honiadau yn ei erbyn dros yr wythnosau diwethaf wedi tynnu ei sylw oddi ar ei waith.

"Does dim yn bwrw'r gwaith yr ydym yn ei wneud i'r cysgod... rydw i yma i wneud job; i gyflawni dros bobl Cymru, i gyflawni'r maniffesto y cawsom ei ethol arni y llynedd.

"Bydd dim yn tynnu ein sylw oddi ar hynny.

"Pan y'ch chi mewn llywodraeth mae'n rhaid i chi gario 'mlaen, rhaid i chi gyflawni i'r bobl a dydych chi ddim yn tynnu'ch sylw oddi ar hynny."

Mae Sunday Politics Wales ar 麻豆官网首页入口 One Wales am 11:00 ddydd Sul 17 Rhagfyr.