麻豆官网首页入口

Vaughan Gething yn ymddiheuro am ganslo llawdriniaethau

  • Cyhoeddwyd
YsbytaiFfynhonnell y llun, Stockvisual

Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru wedi "ymddiheuro'n fawr" os yw triniaeth pobl wedi cal ei effeithio o ganlyniad i "gynnydd yn nefnydd y gwasanaeth iechyd".

Ond pwysleisiodd Vaughan Gething fod system wedi'i ddarparu'n barod i ddelio gyda chynnydd yn y defnydd o'r gwasanaeth.

Daw ei sylwadau wedi i brif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall hefyd ymddiheuro oherwydd y "galw eithriadol" ar y gwasanaeth yn y dyddiau diwetha.

Dywedodd Dr Andrew Goodall mai mis Rhagfyr oedd y prysuraf erioed ar gyfer galwadau i ddigwyddiadau difrifol.

'Pwysau'

Wrth son am ohirio llawdriniaethau dywedodd Mr Gething: "Wrth baratoi ar gyfer y gaeaf, mae'r gwasanaeth iechyd yn lleihau'r nifer o lawdriniaethau sy'n cael eu trefnu o flaen llaw, ond wrth edrych ar y pwysau sydd wedi bod arnom mae mwy wedi'u gohirio.

"Dwi ddim yn credu byddai unrhyw un sydd wedi cael llawdriniaeth wedi'i chanslo yn dweud eu bod nhw'n haeddu'r llawdriniaeth yn fwy na rhywun sydd wirioneddol angen un ar frys.

"Ond dwi'n ymddiheuro'n daer os oes unrhyw un wedi dioddef newid yn ei gofal neu driniaeth sydd wedi'i ohirio oherwydd y pwysau rydym yn ei wynebu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Vaughan Gething wedi ymddiheuro os yw pobl wedi gweld newid yn eu gofal neu llawdriniaeth wedi'i ohurio yn dilyn "cynnydd yn nefnydd y gwasanaeth iechyd."

Ddydd Mercher, dywedodd Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Cymru .

Yn ymateb ar Twitter, diolchodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething i staff y GIG sy'n dangos "gwydnwch" wrth ddelio gyda'r pwysau.

'Heriol'

Dywedodd Dr Goodall wrth 麻豆官网首页入口 Radio Wales bod y gaeaf hwn wedi bod yn "gyfnod heriol iawn i'r GIG yng Nghymru".

"Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi adrodd ei fod wedi derbyn mwy o alwadau coch - rhai difrifol - nag erioed ym mis Rhagfyr," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Dr Goodall bod staff wedi bod yn "wych" yn ymateb

Dywedodd Dr Goodall bod cyfnodau o dywydd oer yn gallu arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld ag ysbytai gyda phroblemau anadlu.

Ychwanegodd bod y GIG wedi gorfod ymateb i ddwbl y galwadau roedden nhw'n ei ddisgwyl ar Nos Galan."

"Wrth i mi siarad gyda chi, rwy'n gwybod bod 400 o gleifion yn ein unedau brys ar draws Cymru, ac mae tua 50% ohonyn nhw dros 85 oed," meddai.

"Mae'r GIG yn ymateb i bwysau sylweddol iawn, ac rydyn ni wedi cyflwyno cynlluniau gaeafol i gefnogi hyn.

"Mae'n amlwg hefyd bod staff wedi bod yn wych yn ymateb. Maen nhw'n ymroddedig iawn i'r GIG ac i ofal cleifion.

"Rydyn ni'n gwybod ei bod wastad yn mynd i fod yn brysurach dros y cyfnod yma - mae tua 400 o welyau ychwanegol wedi'u hagor."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysbyty Treforys yn Abertawe sydd wedi gorfod gohirio'r nifer fwyaf o lawdriniaethau

Mae nifer o fyrddau iechyd Cymru wedi gorfod gohirio llawdriniaethau oherwydd prysurdeb y gaeaf, gydag Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi gorfod gohirio'r "mwyafrif".

"Byddwn yn ymddiheuro i unrhyw glaf sydd wedi'u heffeithio," meddai Dr Goodall.

"Rydyn ni wastad yn ceisio cydbwyso pwysau galwadau brys yn erbyn galw cyffredinol y system.

"Byddwn yn ceisio aildrefnu eu gofal cyn gynted 芒 phosib."

'Arbennig o wael'

Dywedodd Vanessa Young, cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, sy'n cynrychioli'r byrddau iechyd yng Nghymru: "Mae hi wedi bod yn arbennig o wael dros gyfnod y flwyddyn newydd.

"Atebodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru 1,000 o alwadau'n ychwanegol ar Ddydd Calan.

"Mae'r twf yn y nawdd i'r GIG wedi bod yn is nag yn y blynyddoedd diwethaf, felly rydyn ni'n dechrau'r flwyddyn o sefyllfa anoddach.

"Mae'r nawdd ry' ni'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei werthfawrogi ac rydym yn gwneud yr hyn y gallwn ni i wneud y gorau ohono."

Ychwanegodd: "Mae yna gwestiwn sydd angen i ni ei ofyn am y math o wasanaeth iechyd rydyn ni ei eisiau wrth i gymdeithas newid - allwn ni ddim disgwyl iddo ymateb pan mae gofyn i ni wneud mwy a mwy bob blwyddyn gydag adnoddau sydd ddim yn tyfu ar yr un raddfa."

'Risgiau'

Ym mis Tachwedd dywedodd Vaughan Gething fod y gwasanaeth iechyd "yn y safle gorau posib" i ymdopi gyda pwysau'r gaeaf.

Wrth ymateb i'w sylwadau ym mis Tachwedd dywedodd: "Rydym yn y safle gorau posib a gallwn ni fod, ond dywedais hefyd byddai ambell ddiwrnod hynod o anodd a bod risgiau a rhai pethau na allwn gynllunio ar eu cyfer," meddai.