Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Mandy Jones ddim yn ymuno â grŵp UKIP yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
mandy jonesFfynhonnell y llun, Twitter/Nathan Gill
Disgrifiad o’r llun,

Mandy Jones oedd yr ail enw ar restr UKIP yn y gogledd yn etholiadau Cynulliad 2016

Mae UKIP wedi dweud eu bod wedi penderfynu'n "unfrydol" na fydd Aelod Cynulliad newydd Gogledd Cymru yn ymuno â'u grŵp nhw yn y Cynulliad.

Cafwyd cadarnhad fis Rhagfyr y byddai Mandy Jones yn cymryd lle Nathan Gill yn y Senedd, wedi i'r AC annibynnol gyhoeddi y byddai'n camu o'r neilltu.

Roedd Mr Gill wedi ei ethol dan faner UKIP yn 2016 cyn troi'n aelod annibynnol, gan olygu mai Ms Jones, oedd yn ail ar restr y blaid yn rhanbarth y gogledd, fyddai'n ei olynu.

Ond dywedodd grŵp UKIP yn y Cynulliad na fyddan nhw'n gadael iddi ymuno â nhw, a hynny oherwydd y staff mae hi wedi dewis eu cyflogi.

'Tanseilio UKIP'

Roedd y staff sydd bellach yn gweithio i Ms Jones ym Mae Caerdydd yn arfer gweithio i Mr Gill.

Mewn datganiad ddydd Mawrth dywedodd UKIP yng Nghymru: "Wedi trafodaethau gyda Mandy Jones, AC Gogledd Cymru, rydym wedi penderfynu ar y cyd ac yn unfrydol na fydd hi'n ymuno â grŵp UKIP yn y Cynulliad Cenedlaethol.

"Er i bum aelod y grŵp ofyn iddi beidio, mae hi wedi dewis cyflogi unigolion yn ei swyddfa sydd un ai'n aelodau o bleidiau eraill, neu wedi bod yn ymgyrchu'n ddiweddar dros bleidiau eraill, neu'r ddau."

Mae'r blaid hefyd wedi honni fod yr aelodau staff hynny wedi "sarhau ACau UKIP yn bersonol a chyhoeddus" a cheisio "tanseilio UKIP Cymru".

"Mae eu hymddygiad a'u hagwedd yn ei gwneud hi'n amhosib gweithio gyda Mandy Jones ar sail hyder ac ymddiriedaeth," meddai'r datganiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathan Gill yn parhau i fod yn Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Gymru

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP y gallen nhw ailystyried eu penderfyniad pe bai Ms Jones yn cyflogi aelodau staff y gallai'r grŵp "ymddiried ynddyn nhw a gweithio gyda nhw".

Ychwanegodd fod y grŵp cyfan wedi cytuno ar y penderfyniad, ac nad yr arweinydd Neil Hamilton yn ceisio corddi pethau rhyngddo fe a Mr Gill unwaith yn rhagor oedd hyn.

Mewn datganiad dywedodd Mandy Jones ei bod hi wedi ei dewis llynedd fel ymgeisydd UKIP a'i bod yn "falch o gymryd fy sedd yn y Cynulliad i gynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru yn unol â dymuniadau'r etholwyr ym Mai 2016".

"Dyw fy ngwleidyddiaeth i heb newid ac rydw i'n parhau'n aelod o UKIP. Fe fyddai nawr yn ceisio bod yn llais dros y rhanbarth heb unrhyw ymyrraeth bellach."