Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn erbyn cynllun tai

Disgrifiad o'r llun, Mae Ysgol Gynradd Ffynnonbedr wedi cau ers nifer o flynyddoedd

Mae Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan wedi pleidleisio o blaid gwrthwynebu cynlluniau i godi tai ar safle hen ysgol.

Mae rhai trigolion lleol wedi mynegi pryderon am gynlluniau Hacer Developments a chymdeithas dai Wales & West am 21 o unedau fforddiadwy ar safle hen Ysgol Gynradd Ffynnonbedr.

Mewn cyfarfod nos Iau penderfynodd y cyngor tref y byddan nhw'n gwrthwynebu achos nifer o amheuon am y prosiect, gan gynnwys ei faint, y perygl o lifogydd, ac amheuon am allu'r gymdeithas dai i reoli eu tenantiaid.

Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd un sy'n byw'n lleol bod pryderon am ymddygiad ar safleoedd eraill Wales & West yn y dref.

"Does 'da ni ddim hyder y bydden nhw yn medru cefnogi'r tenantiaid," meddai Helen Thomas. "Mae un neu ddau o denantiaid ddim yn cael eu rheoli a'u cefnogi yn ddigon da."

Mae Wales & West yn dweud eu bod nhw'n "brofiadol wrth ymdrin 芒 materion ymddygiad gwrthgymdeithasol" ac y bydd dymchwel yr adeilad yn gwneud gwell defnydd o'r safle.

Yn 么l Cyngor Ceredigion, mae'r cynlluniau - fyddai'n golygu codi 12 o fflatiau a 9 o dai - "o dan ystyriaeth" gan swyddogion cynllunio.