Cyfarwyddwr newydd i arwain datblygiad Wylfa Newydd

Ffynhonnell y llun, Horizon

Disgrifiad o'r llun, Bydd Gwen Parry-Jones yn dechrau ar y swydd ym mis Ebrill

Mae Horizon wedi penodi cyfarwyddwr newydd fydd yn gyfrifol am gynllun Wylfa Newydd ar Ynys M么n.

Yn wreiddiol o'r ardal, fe wnaeth Gwen Parry-Jones astudio ym Manceinion a Bangor cyn gweithio fel ffisegydd yn yr orsaf niwclear flaenorol ar yr ynys.

Dywedodd Horizon Nuclear Power y byddai hi'n gyfrifol am ddatblygiad y pwerdy newydd arfaethedig a "datblygu'r safle a'r t卯m sy'n tyfu ar yr ynys".

Bydd yn dechrau ar ei gwaith fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau Niwclear y cwmni ym mis Ebrill.

Ymgynghori

Dywedodd Ms Parry-Jones, sydd hefyd wedi gweithio gydag EDF Energy a gorsaf niwclear Heysham: "Roedd hwn yn gyfle rhy dda i'w golli i mi - y cyfle i ymuno 芒 th卯m talentog sy'n tyfu, gan adeiladu math newydd unigryw o gwmni niwclear, a chyflawni prosiect trawsnewidiol ar yr ynys lle ges i fy magu.

"Yn ogystal 芒 dod 芒 ph诺er sicr, fforddiadwy, gl芒n a mawr ei angen i'r DU bydd Wylfa Newydd hefyd yn dod 芒 chyfleoedd enfawr ar gyfer tair cenhedlaeth o bobl ar Ynys M么n a'r ardal."

Daw ei phenodiad llai na deufis ers i reoleiddwyr gymeradwyo cynllun yr adweithydd niwclear fydd yn cael ei ddefnyddio yng ngorsaf b诺er Wylfa Newydd.

Yn ddiweddar mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi bod yn ymgynghori ar sut i drin a gwaredu'r gwastraff ymbelydrol fyddai'n cael ei gynhyrchu gan y pwerdy.

Mae gwrthwynebwyr y datblygiad wedi codi pryderon am faterion diogelwch ac amgylcheddol, yn ogystal 芒 faint o swyddi fydd yn mynd i bobl leol a'r effaith ar y Gymraeg.

Ond mae'r rheiny sydd o blaid y cynllun yn dadlau y bydd yn sicrhau swyddi o safon uchel yn yr ardal, ac mae Cyngor Sir Ynys M么n yn gefnogol o'r datblygiad.