麻豆官网首页入口

Perfformiad gwaethaf erioed unedau brys Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans argyfwng

Mae canran y cleifion sy'n treulio llai na'r amser targed o bedair awr mewn unedau brys ar ei lefel isaf yng Nghymru ers i gofnodion gael eu cadw.

Fe wnaeth y nifer sy'n aros mwy na 12 awr godi i'r ail lefel uchaf erioed, yn 么l ffigyrau ar gyfer mis Chwefror.

Yn ystod y cyfnod, fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans dderbyn 38,323 o alwadau 999, yr ail uchaf i gael ei gofnodi.

Ond fe wnaeth yr amseroedd ymateb i "alwadau coch" aros uwchben y targed o 65%, sef 69%.

Pwysau'r gaeaf

Mae'r gostyngiad mewn perfformiad yng Nghymru yn batrwm sy'n cael ei adlewyrchu yng ngweddill y DU.

Daw yn dilyn pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd yn ystod y gaeaf, gyda galw cynyddol am wasanaethau, ac effaith y ffliw.

Mae'r ffigyrau'n dangos:

  • Bod 75.9% o gleifion wedi treulio llai na pedair awr mewn unedau brys - y lefel isaf ar record;

  • Mae'r ffigwr 2.1% yn is na'r mis blaenorol a 5% yn is na'r un mis yn 2017. Y targed yw 95%;

  • Fe wnaeth 5,089 o gleifion dreulio 12 awr neu fwy mewn unedau brys, 21 o gleifion yn is nag ym mis Ionawr - y record am y mis gwaethaf. Y targed yw nad oes unrhyw un yn aros 12 awr;

  • Bod 85.3% o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod. Y targed yw 95%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Hwn oedd y mis Chwefror prysuraf erioed i Ysbyty Athrofaol Cymru, ysbyty fwyaf Cymru, gyda bron 10,500 yn mynychu'r uned frys.

Ond Ysbyty Maelor Wrecsam oedd 芒'r nifer uchaf o gleifion yn aros mwy na 12 awr, sef 738.

Ar gyfer y targed o bedair awr, dim ond 54.7% o gleifion gafodd eu gweld o fewn yr amser.

Record ar gyfer cleifion brys

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething: "Mae ffigyrau yn cadarnhau ein bod wedi gweld y gaeaf prysuraf ar record.

"Ynghyd 芒 record ar gyfer cleifion brys, roedd y lefelau yn uchel ar gyfer pobl oedrannus, a phobl 芒 ffliw yn mynychu ysbytai."

Ychwanegodd nad oedd y sefyllfa yn unigryw i Gymru a bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod 拢10m yn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol ym mis Chwefror er mwyn helpu cadw pobl yn eu cartrefi neu ddychwelyd adref o'r ysbyty yn gynt.