Jeremy Corbyn yn diswyddo AS Pontypridd, Owen Smith

Mae Owen Smith wedi cael ei ddiswyddo o fainc flaen Llafur gan Jeremy Corbyn wedi iddo alw am ail refferendwm ar Brexit.

Mr Smith oedd Ysgrifennydd Cysgodol Gogledd Iwerddon, a Tony Lloyd fydd yn cymryd ei le ar unwaith.

Dywedodd Mr Smith ar Twitter: "Newydd gael y sac gan Jeremy Corbyn oherwydd fy marn ar y difrod y bydd Brexit yn ei wneud i gytundeb Gwener y Groglith ac i economi'r DU gyfan.

"Mae'r farn honno'n cael ei rannu gan aelodau a chefnogwyr Llafur, ac fe fyddai'n parhau i siarad drostyn nhw, ac er budd ein gwlad."

Cefnogi'r farchnad sengl

Roedd Mr Smith wedi galw am bleidlais arall pan fydd y trafodaethau rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd wedi'u cwblhau.

Mewn erthygl i bapur newydd y Guardian, roedd hefyd wedi galw ar Lafur i gefnogi aelodaeth o'r farchnad sengl.

Disgrifiad o'r llun, Aeth Jeremy Corbyn ac Owen Smith benben am arweinyddiaeth Llafur yn 2016

Mewn datganiad dywedodd Mr Corbyn: "Mae Tony [Lloyd] yn weinidog profiadol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn parhau a gweld y cytundeb datganoli yn 么l ar y cledrau."

Fe wnaeth Mr Smith adael ei r么l fel Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yr wrthblaid yn 2016 i herio Mr Corbyn am arweinyddiaeth Llafur.

Cafodd ei benodi i'r r么l yng Ngogledd Iwerddon ym mis Mehefin 2017 ar 么l methu yn ei ymgais i fod yn arweinydd y blaid.