麻豆官网首页入口

6,000 yn rhedeg marathon cyntaf Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Marathon ABP Casnewydd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y ras wynebu oedi o hanner awr cyn dechrau oherwydd problemau traffig

Mae tua 6,000 o redwyr wedi cymryd rhan ym marathon Casnewydd ddydd Sul.

Dyma'r tro cyntaf i farathon gael ei gynnal yn y ddinas, ac mae'r trefnwyr yn dweud bod y cwrs yr un o'r rhai mwyaf fflat a chyflym ym Mhrydain.

Roedd y ras 26.2 milltir - syniad y rhedwr Olympaidd Steve Brace - yn dechrau ac yn gorffen yn yr un lleoliad ar lan yr afon, gyda'r rhedwyr yn teithio trwy bentrefi gwledig yn ogystal 芒'r ddinas ei hun.

Mae ras 10km hefyd wedi'i chynnal ar yr un diwrnod.

Yn ogystal mae llefydd wedi eu cadw i ddisgyblion ysgolion lleol ar gyfer ras hwyl.

Fe wnaeth y ras wynebu oedi o hanner awr cyn dechrau oherwydd problemau traffig.

Yn 么l adroddiad gafodd ei lunio ar gyfer y cyngor fe allai'r digwyddiad greu 拢1.1m i economi'r ardal dros y tair blynedd nesaf.

Mae o oriau man fore Sul.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae hanner marathon yn cael ei gynnal yn y ddinas yn barod

Yn Afghanistan bydd milwyr o fataliwn cyntaf Y Gwarchodlu Cymreig yn rhedeg y pellter ar beiriant rhedeg er budd elusen ABF The Soldiers' Charity.

Run 4 Wales sy'n trefnu'r digwyddiad, yr un t卯m sy'n trefnu hanner marathon Caerdydd a Velothon Cymru.

Dywedodd prif weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: "Mae nifer y bobl sydd wedi cofrestru i gymryd rhan yn y ras wedi bod yn syfrdanol ers i'r ras gael ei lansio ym mis Hydref gan ragori ar ein disgwyliadau.

"Mae gan Gaerdydd enw da fel lle sy'n cynnal digwyddiadau chwaraeon o safon byd eang, ond nawr mae'n amser i Gasnewydd sefydlu ei hun fel lleoliad delfrydol ar gyfer cystadlaethau el卯t a phrofiad i'r gwylwyr."

Ym mis Mawrth cafodd hanner marathon Casnewydd ei chanslo ddwywaith oherwydd yr eira.