Noel James: Seren BGT yn trafod comedi a iechyd meddwl

Ffynhonnell y llun, ITV

Disgrifiad o'r llun, Noel James yn codi gw锚n ar Britain's Got Talent

Nos Sadwrn, 5 Mai gafodd miliynau o bobl y cyfle i chwerthin a mwynhau'r digrifwr Noel James ar raglen Britain's Got Talent ar ITV.

Fe enillodd le yn rownd nesaf y rhaglen dalent ar 么l plesio'r beirniaid gyda'i gymysgedd unigryw o gomedi a cherddoriaeth.

Mae'n wyneb cyfarwydd i lawer o bobl yn barod - mae cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt wedi bod yn mwynhau ei hiwmor bachog ers blynyddoedd.

Ond mae Noel wedi ei effeithio gan broblemau iechyd meddwl ar gyfnodau - rhywbeth sy'n gallu effeithio ar bawb, hyd yn oed comed茂wyr.

Mewn fideo a recordiwyd yn arbennig ar gyfer 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw yn gynharach eleni, mae Noel yn s么n yn onest ac agored am ei gyflwr, ac yn ceisio esbonio sut mae'n dod i delerau gyda'i afiechyd.

"Dwi wedi bod yn isel, dwi wedi bod yn paranoid. Dwi wedi bod yn hypochondriac eithafol. Ers fy arddegau, dwi wedi cael cyfnodau lle dwi wedi teimlo'n drist am ryw reswm.

"Fi'n treulio tair awr y dydd o flaen cyfrifiadur. Mae'r lifestyle yn gallu arwain at amser sb芒r i ti wneud dim byd ond meddwl..."

Gwyliwch y fideo fan hyn:

Disgrifiad o'r fideo,

Efallai o ddiddordeb...