麻豆官网首页入口

Angen 'ailgylchu cwpanau yn lle eu gwahardd'

  • Cyhoeddwyd
CwpanFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n rhaid i'r llywodraeth ei gwneud hi'n haws i ailgylchu cwpanau coffi tafladwy yn hytrach na'i gwahardd nhw, yn 么l un gwneuthurwr.

Mae Llywodraeth Alban eisoes wedi gwahardd y defnydd o gwpanau coffi o fewn y prif adeiladau

Dywedodd Llywodraeth Cymru y base nhw'n gwahardd y defnydd o gwpanau plastig tafladwy yn eu swyddfeydd erbyn 2021.

Ond mae Paul Synott sy'n wneuthurwr o Gaerffili yn dweud fod ei gwahardd yn "ddiangen" a gallai cwpanau papur sydd wedi'u cynhyrchu yn y DU gael ei ailgylchu gyda gwell isadeiledd.

Mae Amgylcheddwyr yn dadlau y dylai'r cynnyrch fod yn ailddefnyddiadwy yn hytrach na'n dafladwy

'Ailgylchu'

Dywedodd Mr Synott o gwmni Seda ac sy'n llefarydd ar ran Cynghrair Cwpanau Papur (PCA) er gwaethaf canfyddiad y cyhoedd "fe allai pob cwpan bapur sydd wedi'i gynhyrchu yn y DU gael ei ailgylchu."

Mae'n gwestiwn o isadeiledd - casglu'r cwpanau a mynd a nhw i rywle ble fydd modd ei ailgylchu," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Grenville Ham mai'r "broblem fwyaf yw eu bod nhw'n anodd ei ailgylchu"

Mae mwy na 99.75% o holl gwpanau tafladwy sy'n cael ei defnyddio yn y DU ddim yn cael ei ailgylchu.

Mae cwpanau papur gyda llen fewnol blastig i atal hylif rhag llifo drwyddo ond yn gallu cael ei ailgylchu mewn pum canolfan ailgylchu yn y DU yn Cumbria, Leeds, Cernyw a Chaint.

'Colli swyddi'

Mae'r PCA yn galw ar lywodraethau a chynghorau i gynyddu'r nifer o finiau ailgylchu cwpanau papur a mecanweithiau i'w cludo nhw i ganolfan brosesu.

Dywedodd Mr Synott fod cwmni Seda a gwneuthurwyr tebyg arall yng Nghymru - Benders yn Wrecsam yn cyflogi mwy na 500 o bobl a 250-350 yn anuniongyrchol.

"Bydd codi trethi ar gwpanau papur neu annog pobl i leihau faint maen nhw yn ei defnyddio yn gallu golygu colli swyddi," meddai.

Ychwanegodd mai'r cwpanau papur yw'r cynnyrch gorau o ran hylendid a hwylusrwydd.

Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Grenville Ham: "Y broblem fwyaf yw eu bod nhw'n anodd ei ailgylchu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi sgrapio defnyddio cwpanau papur gyda llen fewn n 么l blastig pum mlynedd yn 么l a bod staff ac ymwelwyr bellach yn cael diodydd poeth mewn cwpanau seramig," meddai.