Llywodraeth y DU yn ystyried cyfrannu at Wylfa Newydd

Ffynhonnell y llun, Horizon

Disgrifiad o'r llun, Byddai Wylfa Newydd yn weithredol am 60 mlynedd pe bai'n cael ei gymeradwyo

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn ystyried cyfrannu'n ariannol i adeiladu gorsaf b诺er niwclear Wylfa Newydd ar Ynys M么n.

Dywedodd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU, Greg Clark yn Nh欧'r Cyffredin y bydd y llywodraeth yn trafod hynny gyda chwmni Hitachi.

Ychwanegodd Mr Clark fod y datblygiad yn "gam pwysig ymlaen".

Gobaith is-gwmni Hitachi, P诺er Niwclear Horizon, yw dechrau ar y gwaith adeiladu yn Ynys M么n yn 2020.

Byddai'r orsaf yn dechrau cynhyrchu p诺er erbyn 2025 ac yn weithredol am 60 mlynedd, ond mae'r cwmni eto i gwblhau un o'r prif rwystrau, sef sicrhau caniat芒d cynllunio.

'Prosiect mwyaf am genhedlaeth'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: "Wrth agor trafodaethau, mae Llywodraeth y DU hefyd yn amlygu bod Cymru'n lle deniadol i wneud busnes a buddsoddi.

"Dyma fyddai'r prosiect isadeiledd mwyaf yng Nghymru am genhedlaeth a gallai ddod 芒 buddion sylweddol i'r economi."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod wedi croesawu'r cyhoeddiad, gan ei ddisgrifio fel "carreg filltir arwyddocaol i brosiect Wylfa Newydd, sydd 芒 photensial i drawsnewid economi Cymru".

"Mae'n hanfodol bod gan Lywodraeth Cymru sedd wrth y bwrdd wrth i'r prosiect fynd rhagddo a byddaf yn parhau i bwyso am hyn," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Greg Clark y byddai'r llywodraeth yn ystyried buddsoddi ochr yn ochr 芒 Hitachi, llywodraeth Japan ac eraill

Roedd adroddiadau o Japan ym mis Mai bod Llywodraeth y DU am gynnig 拢13.3bn o gymorth ariannol i helpu Hitachi i adeiladu'r orsaf b诺er niwclear.

Yn 么l asiantaeth Kyodo mae costau'r cynllun wedi dyblu i 拢20bn, o'r amcangyfrif gwreiddiol o 拢10bn.

Mae ansicrwydd hefyd yngl欧n 芒'r pris y bydd yr orsaf yn gwerthu trydan.

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gefnogi pris o tua 拢15 yn llai na'r 拢92.50 ar gyfer pob awr megawat gafodd ei gytuno yn achos gorsaf niwclear Hinkley Point C.

Roedd ymgyrchwyr gwrth niwclear yn Japan fis diwethaf i gyflwyno deiseb i Lywodraeth Japan yn galw arnyn nhw i beidio 芒 chefnogi'r orsaf b诺er.

Roedd bron i 6,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb gan Pobl Atal Wylfa B (PAWB), gafodd ei gyflwyno i Weinyddiaeth Masnach a Diwydiant Rhyngwladol Japan.

'Ddim ar draul morlyn'

Mewn erthygl ar wefan ddydd Llun dywedodd AC Plaid Cymru Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth nad yw'n credu y dylai cefnogaeth Llywodraeth y DU i bwerdy niwclear Wylfa Newydd ddod ar draul y morlyn llanw ym Mae Abertawe.

Dywedodd ei fod wedi cymryd safbwynt "pro-Wylfa B" ond na ddylai'r pwerdy newydd gael ei adeiladu "ar unrhyw gost".

Os yw'n digwydd, meddai, mae'n rhaid sicrhau fod yr addewidion gafodd eu gwneud mewn meysydd fel cyflogi pobl leol, twristiaeth a'r iaith Gymraeg yn cael eu gwireddu.

Wrth siarad yn Nh欧'r Cyffredin dywedodd AS Llafur Ynys M么n, Albert Owen y byddai etholwyr yn "croesawu'r cyhoeddiad" ond bod angen sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad i swyddi sgiliau uchel fyddai'n dod gyda'r pwerdy.

"Mae hyn yn newyddion da i fy etholaeth, i ogledd Cymru, i'r diwydiant niwclear... mae angen i hyn ddigwydd mor fuan 芒 phosib," meddai.