Gwelliant mewn mis yn amseroedd aros adrannau brys

Ffynhonnell y llun, GUSTOIMAGES/SCIENCE PHOTO LIBRARY

Roedd yna welliant fis diwethaf yn amseroedd aros adrannau brys ysbytai Cymru o'i gymharu ag Ebrill.

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, cafodd mwy o gleifion eu gweld o fewn y targedau pedair awr a 12 awr yn ystod mis Mai.

Ac roedd gostyngiad o 25% yn nifer y cleifion fu'n aros am dros 12 awr.

Roedd dros 20% o'r cleifion fu'n rhaid aros am gyfnodau hir yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Er i'r gwasanaeth ambiwlans dderbyn 1,266 yn fwy o alwadau o'i gymharu ag ym mis Ebrill, fe atebodd 76.1% o'r galwadau mwyaf brys o fewn wyth munud. 65% yw'r nod.

Dan y targedau, ni ddylai unrhyw glaf aros am fwy na 12 mewn adran frys ac mae disgwyl i 95% o gleifion gael eu gweld o fewn pedair awr cyn gwneud penderfyniad am eu cadw mewn ysbyty, eu trosglwyddo neu'u hanfon adref.

Dyw'r targed yma heb ei gyrraedd hyd yma.

Nifer uwch - canran is

81.6% o gleifion gafodd eu gweld o fewn pedair awr ym mis Mai - sy'n well na pherfformiad mis Ebrill.

Ond dyma'r ganran isaf yn ystod mis Mai ers cadw cofnodion, ac mae'r un peth yn wir am ganran y cleifion fu'n rhaid aros dros 12 awr.

O'r 2,827 o gleifion fu'n aros am o leiaf 12 awr roedd 644 yn Ysbyty Glan Clwyd, 468 yn Ysbyty Treforys, Abertawe a 204 yn Ysbyty Llwyn Helyg, Hwlffordd.

Yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd roedd y nifer isaf, sef 26.

Fe welodd adrannau brys ar draws Cymru dros 3,000 o gleifion bob diwrnod. Dwy awr 14 munud oedd yr amser aros ar gyfartaledd.

Ond mae'r ffigyrau'n dangos cynnydd yn nifer y cleifion sy'n aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapi, ac yn aros dros 36 wythnos i gael eu cyfeirio am driniaeth.

Mae cynnydd hefyd yn nifer y cleifion sy'n aros am dros wyth wythnos am wasanaethau diagnostig neilltuol nawr bod profion y galon ychwanegol yn cael eu cynnwys.

Ddydd Mercher fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething 拢30m o gyllid ychwanegol i fyrddau iechyd er mwyn lleihau rhestrau aros.