Ceidwadwyr: Byddai morlyn Abertawe'n hwb enfawr i Gymru

Disgrifiad o'r llun, AC Ceidwadol Gorllewin De Cymru Suzy Davies

Gall cefnogi cynllun morlyn Abertawe arwain at "chwyldro economaidd" yn 么l y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae'r Ceidwadwyr yn annog aelodau eraill y blaid o fewn Llywodraeth y DU i gefnogi'r cynllun yn dilyn disgwyliadau fod y cynllun ar fin cael ei wrthod.

Mae gweinidogion wedi dweud fod rhaid i'r cynllun 拢1.3bn ddangos gwerth am arian.

Dywedodd Suzy Davies AC y byddai'r morlyn yn dangos ei werth ariannol, a gall y DU ddod yn ganolbwynt "diamheuol" drwy'r byd o ran arbenigedd yn y maes.

Hwb economaidd

Cafodd y cynllun ei argymell mewn adroddiad annibynnol ar gais Llywodraeth Prydain, ond nid yw gweinidogion wedi ei gymeradwyo hyd yma oherwydd pryderon ariannol.

Yn 么l Ms Davies fyddai'r morlyn ddim mor ddrud 芒'r disgwyl, a byddai'n hwb enfawr i economi Cymru.

Meddai: "Mae'r morlyn yn gyfle i gychwyn chwyldro economaidd yng Nghymru, ar raddfa na welwyd ei debyg ers adfywiad Bae Caerdydd.

"Mae'n ffynhonnell egni carbon isel hir dymor, wedi ei adeiladu yng Nghymru ac wedi ei gefnogi gan gwmn茂au o'r DU yn bennaf - gan gynnwys dur Cymreig.

"Os nad yw hyn yn werth am arian, 'dwi ddim yn gwybod be' sydd."

Dywedodd Ms Davies fod gan y cynllun gefnogaeth eang yn lleol a bod pob plaid yng Nghymru wedi cefnogi'r syniad o'r cychwyn cyntaf.