Canllawiau bwyta'n iach newydd i leoliadau gofal plant

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Gall plant sy'n mynychu lleoliadau gofal o oedran ifanc fod yn derbyn hyd at 90% o'u bwyd a'u maeth yno

Mae canllawiau newydd i helpu lleoliadau gofal plant Cymru ddarparu bwyd a diod iach wedi eu cyhoeddi gan y llywodraeth.

Mae'r canllawiau newydd yn rhan o gyfres o fentrau gan Lywodraeth Cymru i geisio atal gordewdra a sicrhau bod mwy o blant yn medru cyrraedd a chynnal pwysau iach wrth dyfu a datblygu.

Roedd y Rhaglen Mesur Plant ar gyfer 2017 yn dangos bod tua chwarter (27.4%) plant 4-5 oed Cymru dros eu pwysau neu'n ordew.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething fod y canllawiau maeth yn "un elfen" o waith y llywodraeth i fynd i'r afael 芒'r mater.

'Sefydlu arferion bwyta cadarnhaol'

Bydd ymgynghoriad 12 wythnos ar safonau newydd a chanllawiau arferion gorau ar gyfer bwyd a maeth sy'n cynnwys darparu prydau, byrbrydau a diodydd i blant 1-12 oed mewn lleoliadau gofal plant.

Mae'r safonau a'r canllawiau newydd yn cynnwys bwydlenni a ryseitiau.

Y bwriad yw helpu lleoliadau i fodloni'r rheoliadau, a hefyd helpu rhieni i fod yn fwy ymwybodol o'r hyn sy'n cael ei gynnig i'w plant.

Gall plant sy'n mynychu lleoliadau gofal o oedran ifanc fod yn derbyn hyd at 90% o'u bwyd a'u maeth yno, gan gynnwys byrbrydau a diodydd, os ydynt yn cael gofal am ddiwrnod llawn.

Drwy annog plant i fwyta diet cytbwys ac amrywiol, y gobaith fydd sefydlu arferion bwyta cadarnhaol.

Bydd y canllawiau yn rhoi cyngor ymarferol ynghylch:

  • Gweini prydau blasus, maethlon er mwyn helpu i ddatblygu arferion bwyta da;
  • Sicrhau bod maint prydau yn briodol ar gyfer oedran y plant;
  • Gweini byrbrydau sy'n faethlon, gydag ychydig o siwgr a halen os o gwbl;
  • Darparu diodydd iach sy'n torri syched ac yn gwarchod dannedd, fel llaeth a d诺r.

Yn 么l Mr Gething mae bwyta bwyd maethlon yn hanfodol bwysig i blentyn yn ystod eu blynyddoedd cynnar.

"Mae hyn yn eu helpu i dyfu a datblygu mewn ffordd iach, yn amddiffyn dannedd rhag pydru ac yn gosod sylfaen ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant yn y dyfodol."

Ychwanegodd bod y llywodraeth yn "datblygu strategaeth 10 mlynedd er mwyn helpu i osod y sylfeini a fydd yn ein helpu i atal ac yna gostwng lefelau gordewdra a chynyddu'r gyfran o bobl sydd 芒 phwysau iach".