麻豆官网首页入口

Caroline Jones i sefyll yn ras arweinyddol UKIP

  • Cyhoeddwyd
Caroline JonesFfynhonnell y llun, Cynulliad

Mae arweinydd presennol UKIP yn y Cynulliad wedi dweud y bydd yn osgoi bod yn ddadleuol dim ond er mwyn codi st诺r.

Daw hynny wrth i Caroline Jones gadarnhau y bydd hi'n cymryd rhan yn y frwydr arweinyddol er mwyn ceisio cadw ei r么l.

Bydd yn wynebu Neil Hamilton - y dyn wnaeth hi ddisodli ym mis Mai - a Gareth Bennett.

Dywedodd Ms Jones y byddai'n ceisio dilyn "trywydd positif" yn ei gwleidyddiaeth.

'Sylwadau annymunol'

Cafodd y bleidlais ei galw gan arweinyddiaeth ganolog UKIP er mwyn ceisio dod 芒'r cecru mewnol o fewn y blaid i ben.

Daeth Caroline Jones yn arweinydd ar y gr诺p wedi iddi hi a dau o'i chyd-ACau ddisodli Mr Hamilton fis diwethaf.

"Rydw i'n cynnig trywydd positif tuag at wleidyddiaeth yn y Cynulliad. Rydw i'n gweithio'n galed yn fy nghymuned," meddai AC Gorllewin De Cymru.

"Dwi erioed wedi bod yn negyddol yn y Cynulliad. Dwi'n cydweithio 芒 phleidiau eraill.

"Dydw i ddim eisiau bod yn ddadleuol dim ond er mwyn bod yn ddadleuol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Neil Hamilton ei ddisodli gan Caroline Jones fis diwethaf

Ychwanegodd bod ganddi "barch ac urddas" tuag at bawb.

"Dwi erioed wedi gwneud sylwadau annymunol yn y Cynulliad o natur bersonol, er mod i wastad yn edrych ar y wleidyddiaeth."

Wnaeth hi ddim enwi ei chyd-aelodau UKIP yn ei sylwadau, ond cafodd Mr Hamilton ei feirniadu am alw dwy Aelod Cynulliad yn "orddechwragedd" yn fuan ar 么l cael ei ethol.

Mae Ms Jones hefyd wedi beirniadu Mr Bennett yn y gorffennol am fideo ble roedd yn gwneud sylwadau sarhaus am AC Llafur.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gareth Bennett eisiau gweld y Cynulliad yn cael ei ddiddymu

Dywedodd Caroline Jones nad oedd hi'n cytuno 芒 barn Gareth Bennett y dylai'r Cynulliad gael ei ddiddymu, gan ddweud ei bod yn "parchu pleidlais y bobl".

Ychwanegodd fodd bynnag nad oedd hi'n credu ei bod hi'n bryd cael mwy o ACau.

"Rydyn ni mewn cyfnod o lymder. Rydw i a'r blaid yn teimlo hynny'n gryf," meddai.

Dywedodd y byddai "wastad yn aelod o UKIP" hyd yn oed os oedd Mr Hamilton neu Mr Bennett yn ennill y bleidlais, ac na fyddai'n "taflu fy nhedi allan o'r pram".