麻豆官网首页入口

Angen i wasanaethau cyhoeddus 'feddwl yn fwy radical'

  • Cyhoeddwyd
Huw Vaughan Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Huw Vaughan Thomas yn rhwystredig nad yw datganoli wedi arwain at ailfeddwl sylfaenol mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Bydd yn rhaid i gyrff cyhoeddus feddwl yn fwy radical yngl欧n 芒'r ffordd maen nhw'n darparu gwasanaethau, yn 么l Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dywedodd Huw Vaughan Thomas y gallai gwasanaethau cyhoeddus newid er gwell, ond nad ydyn nhw hyd yma wedi ymateb i lymder y tu hwnt i dorri costau.

Mae cyllid gwasanaethau cyhoeddus wedi cael ei dorri 10.5% ers 2010.

Ychwanegodd Mr Vaughan Thomas ei fod yn teimlo'n "rhwystredig" nad yw datganoli wedi arwain at ailfeddwl sylfaenol.

'Cyfle gwirioneddol'

Fe wnaeth Mr Vaughan Thomas ei sylwadau mewn llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus cyn iddo ymddeol ddydd Gwener.

Yn 么l yr Archwilydd Cyffredinol, y sialens fwyaf sy'n wynebu cyrff cyhoeddus yng Nghymru yw mynd i'r afael 芒 llymder - yn enwedig ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd: "Rhaid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru feddwl yn fwy radical sut y mae gwasanaethau yn cael eu darparu - rhaid canolbwyntio ar y canlyniadau yn hytrach na'r strwythur.

Ffynhonnell y llun, Matt Cardy/Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ffaith fod 22 cyngor yn darparu gwasanethau addysg yng Nghymru yn hynod, medd Huw Vaughan Thomas

Dywedodd Mr Thomas hefyd nad yw'n credu bod y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru wedi ymateb yn briodol i lymder.

Mae yna "gyfleoedd go iawn" i "ail-siapio ac ailgynllunio gwasanaethau mewn ffyrdd a allai alluogi trawsnewidiadau gwirioneddol", meddai.

"Er bod rhai newidiadau wedi digwydd, yn syml mae gormod o gyrff cyhoeddus ond wedi ailbacio'r problemau sy'n bodoli eisoes."

Mae Mr Thomas yn dweud ei fod yn teimlo rhwystredigaeth fod gwasanaethau wedi ymateb i lymder drwy dorri costau a gwasanaethau yn hytrach na meddwl am ffyrdd sylfaenol o newid eu ffordd o weithio.

'Rhwystredig'

Fe wnaeth Comisiwn Williams argymell nifer o welliannau i'r sector cyhoeddus - er i'w prif argymhellion yngl欧n 芒 chael llai o gynghorau gael eu gwrthod.

Dywedodd Mr Vaughan Thomas fod hwn ac adroddiadau eraill "wedi nodi yn glir natur y problemau oedd angen eu diwygio".

"Ond rwy'n rhwystredig ac yn gynyddol bryderus fod y galwadau yn ystod y degawd diwethaf i weithredu yng Nghymru ddim wedi sbarduno'r newidiadau sydd eu dirfawr angen, ac nad ydyn ni wedi defnyddio datganoli fel cyfle ar gyfer ailfeddwl sylfaenol.

"Mae enghreifftiau o fwriad i newid, fel creu consortia addysg ranbarthol er mwyn cydlynu gwasanaethau ar draws ardaloedd cynghorau.

"Ond mae'r ffaith bod y 22 cyngor 芒 chyfrifoldeb dros wasanaethau addysg yn creu cymhlethdod ychwanegol.

"Buaswn yn ychwanegu fy mod wedi fy syfrdanu fod ein gwasanaethau addysg yn cael eu cynnig ar wah芒n gan 22 awdurdod lleol sy'n gwasanaethu poblogaeth o 拢3.1m o bobl.

"Mae Cyngor Sir Caint, er enghraifft, yn darparu'r un math o wasanaeth i boblogaeth o 1.5m o bobl."

Bydd Mr Vaughan Thomas yn siarad gydag ACau sy'n aelodau o'r pwyllgor ddydd Llun.