麻豆官网首页入口

Dafydd Wigley'n cefnogi Rhun ap Iorwerth i arwain Plaid

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Wigley
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dafydd Wigley oedd arweinydd Plaid Cymru yn yr etholiad Cynulliad cyntaf yn 1999

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley wedi dweud ei fod yn cefnogi Rhun ap Iorwerth ym mrwydr arweinyddol y blaid.

Dywedodd yr Arglwydd Wigley, oedd wrth y llyw rhwng 1991 a 2000, fod gan AC Ynys M么n y sgiliau i fod yn brif weinidog yn dilyn yr etholiad Cynulliad nesaf.

Yn 2012 fe wnaeth yr Arglwydd Wigley gefnogi Leanne Wood pan enillodd hi'r arweinyddiaeth.

Mae Ms Wood yn wynebu her ar hyn o bryd gan Mr ap Iorwerth ac AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price.

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth un arall o ffigyrau h欧n y blaid, Cynog Dafis, ddatgan ei gefnogaeth i Mr Price.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 2013

Ond yn 么l yr Arglwydd Wigley, mae gan Rhun ap Iorwerth y gallu i uno'r blaid a Chymru.

"Dwi'n meddwl fod gan Rhun y sgiliau a'r gallu i ddarparu'r arweinyddiaeth newydd sydd ei angen o fewn gr诺p Plaid yn y Cynulliad, ac mae ganddo'r rhinweddau i arwain Llywodraeth Cymru yn 2021 a thu hwnt," meddai.

Ychwanegodd fodd bynnag fod tri "ymgeisydd gwych" yn y ras.