麻豆官网首页入口

Leanne Wood yn 'dangos dim arweiniad' medd AS Plaid

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Edwarsd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jonathan Edwards oedd rheolwr ymgyrch etholiadol Leanne Wood i fod yn arweinydd y blaid yn 2012

Mae AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards wedi dweud bod arweinydd y blaid, Leanne Wood yn dangos "dim arweiniad" yng nghyd-destun Brexit.

Daw sylwadau Mr Edwards ar 么l iddo gefnogi sefydlu "llywodraeth o undod cenedlaethol" yn San Steffan fyddai'n cynnwys Plaid Cymru.

Mae Ms Wood eisoes wedi gwrthod y syniad o gydweithio gyda'r Ceidwadwyr ar unrhyw lefel.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi gofyn am ymateb i sylwadau Mr Edwards gan Plaid Cymru.

'Bodlon uno'

Dydd Mercher awgrymodd Anna Soubry, sy'n un o 12 o Geidwadwyr aeth yn erbyn Theresa May dros Brexit, y gallai ASau Plaid ymuno 芒'r SNP a Llafur mewn llywodraeth drawsbleidiol.

Wrth ymateb i'r syniad, dywedodd Mr Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, y byddai'n fodlon uno gyda phleidiau eraill pe bai'n golygu atal y DU rhag gadel marchnad sengl ac undeb dollau'r UE.

Mae gwefan Wales Online yn adrodd fod sylwadau Mr Edwards wedi "cythruddo" Ms Wood.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Leanne Wood eisoes wedi gwrthod y syniad o gydweithio gyda'r Ceidwadwyr

Mr Edwards oedd rheolwr ymgyrch etholiadol Ms Wood i fod yn arweinydd Plaid Cymru yn 2012.

Dywedodd Mr Edwards: "Dwi'n ofni bod Leanne wedi dangos dim arweiniad yng nghyd-destun Brexit ers canlyniad y refferendwm.

"Fel ASau rydym wedi cael ein gadael at ein dyfeisiadau ein hunain yn San Steffan, yn ddi-rym o unrhyw gyfarwyddyd gan yr arweinydd.

"Rydym yn wynebu sefyllfa na welwyd o'r blaen, ble mae'r sefyllfa orau o safbwynt Llywodraeth y DU yw Brexit caled a byddai'r sefyllfa waethaf yn cynnwys dim cytundeb, a'r Brexit gwaethaf posib fyddai'n drychinebus i economi Cymru.

"Mae'n bwysig bod Plaid yn dangos arweiniad cenedlaethol yn ystod yr amser pwysig yma, ond does gan Leanne ddim syniad pa mor bwysig yw'r sefyllfa.

"Mae Leanne yn pryderu mwy am y problemau sydd yn ei heffeithio hi, ond beth sydd angen ar Gymru mewn argyfwng yw gwir arweinyddiaeth."

Mae dau AC wedi datgan eu bod am herio Ms Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru, sef Rhun ap Iorwerth ac Adam Price.