麻豆官网首页入口

Pysgotwyr yn pryderu am ddyfodol y diwydiant wedi Brexit

  • Cyhoeddwyd
Pysgotwr

Mae yna rybudd y byddai nifer o bysgotwyr m么r Cymru'n "methu 芒 goroesi" Brexit digytundeb.

Mae'r rhan helaeth yn dal pysgod cregyn, gan eu hallforio nhw yn fyw i'r cyfandir neu ymhellach drwy gytundebau masnach yr Undeb Ewropeaidd.

Honnodd Cymdeithas Pysgotwyr Cymru (CPC) y byddai pobl yn dechrau "mynd i'r wal" ar 么l ond mis pe bai profion a chyfyngiadau yn achosi oedi wrth groesi ffiniau.

Mynnu eu bod yn benderfynol o sicrhau'r dd锚l orau ar gyfer pysgotwyr mae Llywodraeth y DU.

Dywedodd Sion Williams, sy'n bysgotwr cimwch a chrancod o Wynedd ac yn llefarydd ar ran CPC, wrth raglen Newyddion 9 麻豆官网首页入口 Cymru fod y sector yn gynyddol bryderus y byddai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb masnach.

Tra bod nifer o bysgotwyr yn dal i obeithio y bydd Brexit o fudd i'w diwydiant gyda mwy o gwot芒u a llai o reolau a chyfyngiadau, mynnodd bod parhau i fedru masnachu'n ddidrafferth 芒'r UE yn hanfodol.

"Dwi'm yn meddwl wnaeth neb bleidleisio i bethau fynd yn waeth," meddai.

"'Da ni ddim yn wydn iawn fel diwydiant. Mae'n busnesau wedi datblygu dros y 40 o flynyddoedd diwethaf i werthu'n ddirwystr i Ewrop."

"'Sa unrhyw fath o atal yn y porthladdoedd yn medru golygu bod y cynnyrch yn dirywio, colli'i werth neu hyd yn oed yn marw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae sicrhau cytundeb masnach wedi Brexit yn "hanfodol" yn 么l Sion Williams

O'r 451 o gychod pysgota sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru, mae 92% yn fychan - llai na 10m mewn hyd, ac yn arbenigo mewn dal pysgod cregyn fel cimychiaid, crancod, a chregyn gleision.

Yn 2017 daeth gwerth 拢38.8m o gynnyrch i'r lan, gyda 90% ohono'n cael ei allforio i farchnadoedd yr UE.

"Mae 'na arolwg wedi'i wneud ac mae'n rhoi rhyw fis fysa ni'n medru dal llawer o'r busnesau heb werthu'n cynnyrch a chael arian amdano fo. Bysa llawer o fusnesau mewn peryg o fynd i'r wal," rhybuddiodd Mr Williams.

"Fedrwn ni ddim dal ein cynnyrch ni nol."

System o gymorthdaliadau

Byddai angen ystyried cyflwyno system o gymorthdaliadau ar gyfer pysgotwyr os yw'r gwleidyddion yn methu yn eu hymdrechion i sicrhau cytundeb masnach, meddai.

Yn ogystal 芒'r oedi wrth groesi ffiniau, dywedodd Mr Williams ei fod ar ddeall y gallai tollau o oddeutu 6% ar gyfer crancod a 8% ar gyfer cimychiaid gael eu codi.

Dywedodd un gadwyn o fwytai bwyd m么r amlwg yng Ngogledd Cymru eu bod hwythau'n paratoi i bris y cynnyrch gynyddu ar 么l Brexit.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mrs Webb fod bwyty Dylan's yn paratoi ar gyfer cynnydd posib ym mhris pysgod cregyn wedi Brexit

Yn 么l Gemma Webb, rheolwr digwyddiadau cwmni Dylan's - sydd 芒 safleoedd yng Nghricieth, Porthaethwy a Llandudno - ei bod hi'n allweddol sicrhau diwydiant pysgota cryf yn lleol ar 么l i Brydain adael yr UE oherwydd yr effaith mae'n ei gael ar sectorau cysylltiedig fel y diwydiant bwytai a thwristiaeth.

"Mewn rhai ffyrdd fe allai fod yn dda i'r diwydiant pysgota lleol achos os yw hi'n mynd yn anoddach i fewnforio cynnyrch o dramor bydd lot o fwytai yn prynu o gynhyrchwyr lleol," meddai.