Leanne Wood: 'Rhaid i gyfaddawd niwclear Plaid Cymru newid'

Mae angen i gyfaddawd Plaid Cymru ar ynni niwclear newid, yn 么l yr arweinydd, Leanne Wood.

Dywedodd y byddai'r blaid yn adolygu ei pholis茂au ynni petai hi'n cael ei hail-ethol yn arweinydd.

Er bod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu ynni niwclear nid yw wedi gwrthwynebu adeiladu gorsafoedd yn lle hen safleoedd, fel Wylfa Newydd ar Ynys M么n.

Dywedodd ymgeisydd arall am yr arweinyddiaeth, Adam Price, nad oedd yr orsaf newydd yn cyd-fynd ag annibyniaeth i Gymru.

Ond mae'r trydydd ymgeisydd, AC Ynys M么n Rhun ap Iorwerth, wedi cefnogi Wylfa Newydd.

Mae Ms Wood wedi dweud nad yw safbwynt Plaid Cymru bellach yn adlewyrchu'r realiti ar lawr gwlad ar Ynys M么n, gan godi pryderon am y 3,000 o dai newydd fyddai eu hangen yng nghyfnod adeiladu'r orsaf.

'Mater anodd' i Blaid Cymru

Dywedodd Ms Wood bod ynni niwclear wedi bod yn "fater anodd" i Blaid Cymru: "Rydyn ni'n gwrthwynebu ynni niwclear ond wedi ein gorfodi i bwyso a mesur ein pryderon yn erbyn yr angen i ddenu swyddi o safon i ardaloedd gwledig.

"Mae'r pryderon yma wedi creu safbwynt o gyfaddawd o beidio gwrthwynebu ailosod gorsafoedd niwclear presennol.

"Mae hynny wedi gosod pobl sydd 芒 phryderon am yr iaith a'r amgylchedd yn erbyn ei gilydd."

Ychwanegodd bod "pryder cynyddol gan bobl Ynys M么n y byddai'r cyfnod adeiladu angen mewnlifiad o weithwyr o'r tu allan all roi "straen annioddefol" ar isadeiledd.

Petai hi'n cael ei hail-ethol, dywedodd y byddai'r adolygiad yn astudio effeithiau'r datblygiad ar dai, yr economi a'r iaith ym M么n a Gwynedd.

Disgrifiad o'r llun, Mae gan Adam Price (chw) a Rhun ap Iorwerth farn wahanol am orsaf Wylfa Newydd

Mae un o'r ymgeiswyr eraill, Adam Price, wedi dweud y dylai Plaid Cymru "fod yn glir yn ei gwrthwynebiad i Wylfa B", gan ddadlau y gallai fod yn "faich anferthol" petai Cymru'n annibynnol.

Dywedodd bod yr orsaf wedi ei chynllunio i gynhyrchu mwy o drydan na mae Cymru i gyd ei hangen, a petai Cymru'n annibynnol gallai olygu bod "y baich o dalu am y trydan yn disgyn un ai ar drethdalwyr Cymru neu ddefnyddwyr trydan Cymru".

Cyn cyhoeddi ei fwriad i sefyll am yr arweinyddiaeth, dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod am weithio'n agos gyda'r datblygwr i geisio sicrhau bod "materion lleol ar agenda Wylfa".

Yn ysgrifennu i wefan Nation.Cymru, dywedodd ei fod wedi rhoi neges "bositif a chlir" o blaid Wylfa Newydd gan "frwydro i sicrhau bod pobl ifanc Ynys M么n a chymunedau yn manteisio".