麻豆官网首页入口

Galw am roi chwistrelli llonyddu i staff Carchar Berwyn

  • Cyhoeddwyd
Berwyn

Mae arweinydd undeb yn galw am yr hawl i roi chwistrelli llonyddu i staff yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam gynted 芒 phosib.

Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement, dywedodd cadeirydd Cymdeithas y Swyddogion Carchar, Mark Fairhurst bod Carchar Berwyn yn "un o garchardai mwyaf treisgar Prydain" a bod angen diogelu staff.

Eisoes mae pedwar carchar yn Lloegr yn arbrofi trwy ddefnyddio'r chwistrell PAVA (Pelargonic Acid Vanillyamide) i lonyddu carcharorion ac mae'r heddlu hefyd yn ei defnyddio.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod yn sicrhau bod swyddogion yn cael yr adnoddau angenrheidiol i wneud eu gwaith yn ddiogel, gan bwysleisio nad ydy'r gwasanaeth yn goddef trais yn erbyn staff dan unrhyw amgylchiadau.

Yn 么l Mr Fairhurst, fe fu dros 122 o ymosodiadau - "dros 20 y mis" - ar staff y carchar yn y chwe mis diwethaf, ac mae'n dadlau y "byddai unrhyw un gyda iot o synnwyr cyffredin yn dweud eu bod yn sicr angen PAVA".

Dywedodd hefyd fod "arbrawf cymdeithasol" yn cael ei gynnal yn y carchar - sef carchar mwyaf Prydain - "sydd wedi methu'n llwyr", a bod mor芒l yn isel eithriadol gan fod rheolwyr yn "ceisio tawelu carcharorion yn lle cefnogi staff".

'Colli'r hawl i ail gyfle'

"Dywedodd aelod o staff wrtha'i am un carcharor sydd wedi ymosod ar dri aelod o staff yn Berwyn - tri aelod o staff," meddai.

"Roedd yn dal yn adain arferol y carchar, ac yn mwynhau holl fanteision bod yn fanno. Mae'n rhaid bod yna ganlyniadau a chosbau i garcharorion sy'n ymddwyn yn dreisgar, neu'n mynd yn erbyn rheolau'r carchar.

"Ddylai'r carcharor yna ddim gael ail gyfle. Gynted ag ydych chi'n ymosod ar staff, yn enwedig mewn lle fel Berwyn sy'n rhoi cyfleoedd gwych i garcharorion, ddylie chi gael eich symud allan, rydych chi wedi colli'ch cyfle."

Ffynhonnell y llun, Nick Dann

Dywedodd fod aelod o staff oedd wedi siarad gyda 麻豆官网首页入口 Cymru yn ddi-enw am amodau gwaith yn y carchar wedi cael rhybudd ysgrifenedig terfynol o ganlyniad.

"Roedd ond yn dweud y gwir am ei fywyd gwaith yn Berwyn," meddai. "Mae hynny'n ffiaidd, yn fy marn i."

Camau i atal trais

Mewn datganiad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Fydd trais yn erbyn ein staff gweithgar fyth yn cael ei oddef ac rydym yn sicrhau fod swyddogion carchar 芒'r adnoddau angenrheidiol i wneud y gwaith yn ddiogel trwy gyflwyno camer芒u i wisgo ar y corff, cyffion ac offer ffrwyno fel rhai'r heddlu, a phrofion chwistrell lonyddu PAVA."

Ychwanegodd fod arolygwyr annibynnol wedi canmol gwaith staff Carchar Berwyn, gan ddweud bod sefydlu carchar newydd sbon yn "orchest aruthrol".

Roedd yr arolygwyr hefyd wedi canmol ymdrechion staff y carchar am wneud "gwaith ardderchog o ran ailsefydlu troseddwyr, eu helpu i ddysgu sgiliau newydd a chydweithio'n agos gyda chyflogwyr lleol i gael gwaith ar 么l cael eu rhyddhau".