麻豆官网首页入口

Cymeradwyo cais i glirio'r tir ar gyfer codi Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
Wylfa newyddFfynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r pwyllgor cynllunio wedi rhoi caniat芒d i glirio'r safle er mwyn paratoi ar gyfer codi Wylfa Newydd

Mae cynghorwyr wedi rhoi caniat芒d i gwmni Horizon glirio bron i 750 acer o dir ar gyfer codi atomfa newydd ym M么n.

Bydd y datblygwyr yn dymchwel ffensys ac adeiladau presennol yn ogystal 芒 chodi maes parcio a swyddfeydd ar gyrion y safle.

Ond cododd y cynlluniau bryderon ymhlith rhai o gynghorau cymuned gogledd yr ynys, yn ogystal 芒 mudiadau cadwraethol fel Greenpeace.

Dywedodd Horizon eu bod yn ffyddiog y bydd y cynlluniau terfynol yn cael eu gwireddu.

'Dim garant卯'

Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor M么n gyfarfod ddydd Mercher i drafod cais i gael clirio'r safle sydd wedi ei glustnodi ar gyfer Wylfa Newydd, datblygiad sydd wedi hollti barn yn yr ardal ers blynyddoedd.

Cytunodd y pwyllgor yn unfrydol i gymeradwyo'r cynlluniau.

Roedd mudiadau cadwraethol a chynghorau cymuned yn ardal Cemaes wedi mynegi pryder fodd bynnag am glirio darn mor fawr o dir cyn bod yr arian a'r holl ganiat芒d yn ei le i godi atomfa newydd.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol nad oedden nhw'n fodlon bod Horizon wedi gwneud digon i leddfu eu "pryderon am y bygythiad i gynefinoedd, bywyd gwyllt a thirwedd".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Derek Owen yw cadeirydd cyngor cymuned Llanbadrig, sydd yn agos i safle'r datblygiad arfaethedig

Yn 么l y cais a aeth gerbron cynghorwyr yr ynys, mae'r datblygwyr wedi addo adfer y safle i'w gyflwr blaenorol os nad yw'r atomfa yn cael ei chodi yn y diwedd.

Ond mae Derek Owen, cadeirydd cyngor cymuned Llanbadrig, yn dweud ei fod am weld Horizon yn cael yr arian yn ei le a'r holl ganiat芒d cynllunio perthnasol ar gyfer Wylfa Newydd cyn dechrau clirio'r safle.

"Mae Sir F么n isio power station newydd yma yng ngogledd M么n, ond dim ar gostau i'r environment fel maen nhw isio 'neud ar y funud," meddai.

"Does 'na ddim garant卯 100% bod Wylfa Newydd yn mynd i dd诺ad... maen nhw'n tynnu waliau, coed a thai i lawr na chawn nhw fyth yn 么l."

'Diwydiant mewn dirywiad'

I rai ymgyrchwyr, fel Dylan Morgan o fudiad gwrth-niwclear PAWB, does dim lle i atomfa newydd ar yr ynys o gwbl.

"Mae profiad rhyngwladol yn tanlinellu mai diwydiant mewn dirywiad terfynol yw'r diwydiant niwclear," meddai.

"Mae gwledydd call ar draws y byd yn arafu ac yn tynnu allan o ddatblygu ynni niwclear, technoleg sy'n perthyn i ganol yr 20fed ganrif.

"Mae technolegau adnewyddol yn carlamu yn eu blaenau, a dyna'r unig ffordd gall a synhwyrol ymlaen, a'r unig ffordd sydd am ddiogelu'r cenedlaethau sy'n ein dilyn ni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim lle i ynni niwclear yn yr 21ain ganrif, yn 么l Dylan Morgan

Dywedodd Richard Foxhall, llefarydd ar ran Horizon, ei fod yn ffyddiog y bydd Wylfa Newydd yn digwydd.

"Mae'n reit bwysig, pan 'dan ni'n gobeithio cael y caniat芒d mawr er mwyn adeiladu Wylfa Newydd, fod y tir yn barod ar gyfer y gwaith adeiladu fydd i ddilyn," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'r cais ar gyfer y gorchymyn cydsyniad datblygu, sef y cais cynllunio mawr i adeiladu Wylfa Newydd, bellach wedi cael ei dderbyn gan yr arolygiaeth gynllunio.

"Rydyn ni'n hyderus y bydd hwnnw'n dod yn 么l mewn amser, 'dyn ni'n hyderus fydd y cyllid ar gyfer adeiladu Wylfa Newydd yn ei le.

"Mae'n hollbwysig ar gyfer lleihau cyfnod y prif adeiladu fod y gwaith yma'n cael ei wneud yn fuan, felly unwaith bydd pob dim yn ei le, y byddwn ni'n gallu mynd syth ati a bwrw 'mlaen gyda'r gwaith mawr."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywdodd Richard Foxhall ei fod yn hyderus fydd y cynllun terfynol yn cael ei gymeradwyo

Fe wnaeth swyddogion cynllunio argymell i gynghorwyr gymeradwyo'r prosiect am fod "dirfawr angen y datblygiad" ar hyn o bryd, a bod cytuno yn "hwyluso datblygiad cynnar i'r orsaf b诺er niwclear newydd".

"Mae'r brys - 芒 hwn yn fater sydd wedi cael ei adnabod fel un o bwys cenedlaethol - yn ddigon i orbwyso'r pryderon bod y cais i baratoi'r tir yn gynamserol drwy'r broses DCO," dywedodd un swyddog.

"O bwyso a mesur, ystyriwn fod y datblygiad, yn unol 芒 mesurau lliniaru addas, yn mynd i wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygu'r economi heb achosi gormod o effaith ar yr amgylchedd na'r gymuned leol."

'Newid sylweddol'

Yn dilyn y penderfyniad dywedodd arweinydd Cyngor M么n, Llinos Medi: "Bydd cynllun y Wylfa Newydd yn dod 芒 manteision economaidd hirdymor i'r Ynys, ond bydd hefyd yn golygu nifer o heriau sylweddol.

"Rydym yn parhau i fod yn gefnogol i'r Wylfa Newydd ac i greu economi llwyddiannus a llewyrchus yma ym M么n, ond ni fydd hyn yn dod ar unrhyw gost."

Ychwanegodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd M么n, Dylan J Williams: "Bydd cais o'r maint yma'n golygu newid sylweddol - gyda chymunedau sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol yn derbyn blaenoriaeth drwy'r pecyn lliniaru.

"Yn holl bwysig, byddwn yn ymateb i bryderon amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol-economaidd ddaw i'r amlwg a rheini yn destun adferiad priodol."