麻豆官网首页入口

Cofio "gobaith mawr coll" cerddoriaeth Gymreig

  • Cyhoeddwyd
Morfydd Owen yn 1915Ffynhonnell y llun, Casgliad personol Rhian Davies

Gan mlynedd yn 么l ar 7 Medi 1918 bu farw cerddor 26 oed sy'n dal i gael ei chofio am ei dawn fel cyfansoddwraig yn ogystal 芒'i harddwch a'i bywyd lliwgar.

Mewn ysgrifennodd Rhian Davies, cyfarwyddwr artistig G诺yl Gregynnog, am y "golled aruthrol" i gerddoriaeth Gymreig wedi marwolaeth Morfydd Llwyn Owen yn 1918.

Mae Rhian Davies yn cyflwyno cyngerdd o waith y gyfansoddwraig gan y gantores werin Sian James a'r telynor Steffan Rhys Hughes ar 29 Medi yng nghanolfan gymunedol Llanbrynmair, sef ardal deuluol tad y cerddor.

Mae'r noson yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a pherfformiadau mae'r 诺yl wedi eu cynnal ers dechrau 2018 i nodi canmlwyddiant ei marwolaeth.

Dywedodd Elin Manahan Thomas ar raglen Taro'r Post, Radio Cymru, fod yna "ing a phoen" yn ei gwaith hi.

"Roedd hi'n berson mor gymhleth... mor llachar, mor ddiddorol ac athrylithgar - ond mor gymhleth," meddai'r gantores a fydd yn cyflwyno rhaglen arbennig amdani ar Radio Cymru ddydd Sul, 9 Medi.

"Mae cymhlethdod yn si诺r o fod yn rhan bwysig o fod yn gyfansoddwr - efallai ei fod yn rhan naturiol ohoni hi ond be sy'n drist yw ein bod ni'n gweld mwy o ddwyster a thristwch ar ddiwedd ei bywyd, ar 么l iddi briodi Ernest Jones..."

Bydd y rhaglen yn edrych n么l ar ei bywyd ac amgylchiadau ei marwolaeth cyn ei hamser.

Dirgelwch

Priododd Morfydd y meddyg a'r seicdreiddiwr Ernest Jones yn 1917 mewn seremoni gyfrinachol.

Ond o fewn blwyddyn roedd wedi marw.

Yn 么l yr hanes bu farw wedi triniaeth i dynnu'r pendics. Ond mae'r ffaith i'r driniaeth ddigwydd yng nghartref ei theulu yn y Mwmbwls, y diffyg post mortem a'r oedi cyn cyflwyno papurau ffurfiol i nodi ei marwolaeth yn ychwanegu at y dirgelwch yngl欧n 芒 hi meddai Rhian Davies.

Mae camp gerddorol Morfydd Owen fel cyfansoddwraig a pherfformiwr, ei phryd 芒'i gwedd trawiadol a'i phersonoliaeth fywiog, yn ogystal 芒 dirgelwch ei marwolaeth wedi cyfuno i sicrhau ei bod yn cael ei chofio fel "gobaith mawr coll" cerddoriaeth Gymreig meddai Ms Davies.

Ffynhonnell y llun, casgliad personol Rhian Davies

Cylchoedd Bohemaidd Llundain

Cafodd Morfydd Llwyn Owen ei geni yn Nhrefforest ger Pontypridd yn 1891 cyn mynd i astudio yng Nghaerdydd ac yna yn Academi Gerdd Frenhinol, Llundain.

Yn Llundain daeth yn amlwg fel cyfansoddwraig ddawnus oedd yn troi mewn cylchoedd Bohemaidd oedd yn cynnwys D. H. Lawrence, Ezra Pound a'r Tywysog Felix Yusupov o Rwsia, oedd 芒 rhan o'r cynllwyn i ladd Rasputin, ac roedd yn cael ei hystyried fel gwraig hardd eithriadol.

Cafodd hefyd gefnogaeth a chroeso cynnes gan gapeli Cymraeg a chymdeithas ehangach Cymry Llundain a chafodd help y prifweinidog o Gymru, David Lloyd George, i ymddangos mewn cyngherddau.

Roedd yn cyfansoddi emyn-donau, cerddoriaeth siambr, gweithiau corawl a cherddorfaol, unawdau piano a chaneuon ac roedd llawer o'i gwaith wedi'u hysbrydoli gan lenyddiaeth ac alawon gwerin Cymru.

Fe fu'n gwneud gwaith arloesol hefyd gyda ac fe roddodd Rhian Davies gyflwyniad am yr elfen yma o'i gwaith yn Narlith Goffa Amy Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol 2018.

'O flaen ei hamser'

"Fe gollon ni athrylith achos bod hi'n ferch allan o'i hoes a dyna sy'n fy nharo bob tro dwi'n dod nol ati," meddai Elin Manahan Thomas gan ddychmygu pa fath o fywyd byddai hi wedi ei gael pe bai'n byw 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Rhwng 7-9 Medi mae dau blac glas yn cael ei gosod i gofio amdani - un ar y t欧 yn y Mwmbwls ble bu farw a'r llall ar ei chartref yn Nhrefforest.

Ymysg y cyngherddau eraill sydd wedi eu trefnu i nodi'r canmlwyddiant drwy gydol 2018 mae cyngherddau yn Rhydychen, Stafford, Birmingham, Caerdydd a Brighton gan Illuminate, sef prosiect newydd i hybu cyfansoddwyr a pherfformwyr sy'n fenywod.

Cafodd un o weithiau adnabyddus Morfydd Llwyn Owen, Nocturne, ei gynnwys am y tro cyntaf yn rhaglen Proms y 麻豆官网首页入口 yn Neuadd Albert ym mis Gorffennaf 2018 lle cafodd ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y 麻豆官网首页入口 dan arweiniad yr arweinydd Thomas S酶nderg氓rd.

Roedd Morfydd Owen wedi cwblhau 250 o ddarnau cyn ei marwolaeth gynamserol: 100 mlynedd yn ddiweddarach mae ei dylanwad fel cerddor a menyw yn dal i gael ei ddathlu yng Nghymru a thu hwnt.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Flwyddyn cyn ei marwolaeth, roedd Morfydd Llwyn Owen yn perfformio yn 'Eisteddfod y Gadair Ddu' yn Birkinhead 1917 pan glywodd y genedl am farwolaeth Hedd Wyn

Efallai o ddiddordeb: