Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Morfydd Llwyn Owen

Hanes cerddorol a phersonol cerddor a fu farw yn 1918, ychydig cyn ei phen-blwydd yn 27 oed. The story of a musician who died in 1918, shortly before her 27th birthday.

Yn ferch ifanc yn ei harddegau cynnar, aeth Elin Manahan Thomas gyda'i thad i Fynwent Ystumllwynarth, ac yno gwelodd garreg fedd Morfydd Llwyn Owen, a fu farw ychydig cyn ei phen-blwydd yn 27 oed. Byth oddi ar hynny, mae union amgylchiadau diwedd bywyd y cerddor yn 1918 wedi bod ar ei meddwl.

Yn y rhaglen hon, mae Elin yn dychwelyd i Fynwent Ystumllwynarth, ac yn holi eraill yn y gobaith o gael atebion i'w chwestiynau am rywun sydd wedi bod o ddiddordeb mawr iddi ers blynyddoedd.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 12 Medi 2018 18:00

Darllediadau

  • Sul 9 Medi 2018 13:00
  • Mer 12 Medi 2018 18:00