Carwyn Jones yn enwebu Eluned Morgan i'r ras arweinyddiaeth

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi enwebu Eluned Morgan i ymuno yn y ras i'w olynu, er mwyn sicrhau bod menyw ar y papur pleidleisio.

Mae'n golygu bod gan Ms Morgan, gweinidog y Gymraeg, gefnogaeth y chwe Aelod Cynulliad Llafur sydd eu hangen i ymgeisio.

Cafodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, chwe enwebiad, tra bod yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cael 17.

Fe wnaeth y cyfnod enwebu gau ddydd Mercher, bydd y papurau pleidleisio'n mynd allan ar 9 Tachwedd, a'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 6 Rhagfyr.

Bwriad Mr Jones yw ymddiswyddo yn dilyn sesiwn holi'r prif weinidog ar 11 Rhagfyr.

Fis diwethaf, penderfynodd Llafur Cymru ddefnyddio system un-aelod-un-bleidlais, fel yr un wnaeth ethol Jeremy Corbyn, ar gyfer yr etholiad.